Mater - cyfarfodydd

Developing Leisure Provision for Future Generations Plan

Cyfarfod: 23/03/2020 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 6)

6 Datblygu Darpariaeth Hamdden ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol pdf eicon PDF 732 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd mabwysiadu’n ffurfiol y fersiwn ddrafft o’r Cynllun Datblygu Darpariaeth Hamdden ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol.

Cofnodion:

Cafodd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro, sy'n cynnwys Cynllun Drafft i Ddatblygu Darpariaeth Hamdden ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol, ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Dywedodd y Cadeirydd yr ymgynghorwyd ynghylch y Cynllun ar sawl lefel, gan gynnwys Chwaraeon Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mewn sesiynau briffio Aelodau Etholedig. Mae'r Cynllun yn gadarnhaol yn ei agwedd ac mae'n ceisio cadw'r pedair canolfan hamdden bresennol gan ddarparu rhaglen dreigl o welliannau dros amser fel y gall y canolfannau ddiwallu anghenion poblogaeth yr Ynys yn y dyfodol o ran ffitrwydd, iechyd a lles. Cafodd fersiwn drafft y Cynllun ei ystyried gan Bwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn ei gyfarfod ar 11 Mawrth. Cefnogwyd y Cynllun, gan argymell bod y cynnwys yn cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith - yn arbennig y cynigion ar gyfer cynnal a chadw a gwella a amlinellir ynddo.

 

Dywedodd Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro fod y Cynllun Hamdden newydd yn ateb fforddiadwy a realistig i gynnal y canolfannau presennol dros y tymor byr i ganolig hyd nes y bydd y sefyllfa ariannol bresennol yn gwella.

 

Croesawodd y Pwyllgor Gwaith y Cynllun gan gydnabod ei bod yn bwysig bod y Cyngor yn parhau i ddarparu'r ddarpariaeth hamdden yn y dyfodol a'i bod hefyd yn bwysig bod y cyhoedd yn gwybod mai strategaeth y Cyngor yw cadw bob un o'r pedair canolfan a buddsoddi yn y cyfleusterau hynny.

 

Penderfynwyd mabwysiadu’n ffurfiol y fersiwn ddrafft o’r Cynllun Datblygu Darpariaeth Hamdden ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol.