8 Adroddiad Cynnydd y Panel Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 600 KB
Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon â chyflymder y cynnydd a’r gwelliannau a wnaed hyd yma yn y Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n amlinellu’r cynnydd a wneir o ran y gwelliannau hyd yma o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol, i'r Pwyllgor Gwaith eu hystyried.
Adroddodd Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod pedair elfen i'r diweddariad fel a ganlyn–
• Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGC) - Adolygiad Perfformiad Awdurdodau Lleol – derbyniodd y Cyngor ei Lythyr Adolygiad Perfformiad Blynyddol Awdurdod Lleol AGC ddiwedd mis Hydref, 2019; roedd y llythyr yn rhoi adborth ar weithgarwch arolygu a gwerthuso perfformiad a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn yn ogystal â'r cynnydd a wnaed gan yr awdurdod lleol i weithredu argymhellion o arolygiadau a/neu adolygiadau ymarfer plant ac oedolion ac roedd hefyd yn amlinellu blaenraglen waith yr Arolygiaeth. Mae'r adroddiad yn nodi'r negeseuon allweddol o'r llythyr adolygu ar draws Gwasanaethau Oedolion a Phlant o dan bedair egwyddor Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 –Lles; Pobl - Lleisiau a Dewis; Atal, a Phartneriaethau ynghyd ag ymateb y Gwasanaeth i'r materion a godwyd.
• Adborth gan Arolygiaeth Gofal Cymru ar 2 ddiwrnod o fonitro yn Llythyr Gwasanaethau Plant CSYM dyddiedig 25 Hydref, 2019 a oedd yn cynnwys gwerthuso ffeiliau achos a chyfweld Rheolwyr Timau Gweithredol a Swyddogion Adolygu Annibynnol - mae'r llythyr adborth yn nodi bod canfyddiadau AGC yn dangos bod gwasanaeth ar drywydd cadarnhaol o ran gwella gyda chefnogaeth arweinwyr a rheolwyr sy'n cymryd cyfrifoldeb am ysgogi gwelliannau. Mae'r llythyr yn tynnu sylw ymhellach at ddarnau da o waith yn ogystal â meysydd sydd angen eu gwella ac fe'u nodir yn yr adroddiad.
• Cydweithio â Voices from Care Cymru (asiantaeth wirfoddol Cymru gyfan sy'n gweithio gyda phlant sy'n derbyn gofal i hyrwyddo eu hawliau a gwella'r gwasanaethau a ddarperir ar eu cyfer) – mae'r adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed gyda Voices from Care Cymru i sefydlu grŵp cyfranogiad misol ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 14 a 22 oed sy'n derbyn gofal i gefnogi Ynys Môn i ddatblygu Strategaeth Plant sy'n Derbyn Gofal a Rhai sy'n Gadael Gofal.
• Sicrhau Ansawdd – mae'r adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith yr Uned Diogelu a Gwella gan gynnwys gweithredu'r Fframwaith Gwella Ansawdd.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod y Pwyllgor, wrth ystyried yr adroddiad cynnydd yn ei gyfarfod ar 9 Mawrth 2020, wedi cadarnhau ei fod yn fodlon ar gyflymder y cynnydd a'r gwelliannau hyd yma yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a'i fod yn cydnabod y gwaith sy'n cael ei wneud.
Wrth ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd, nododd y Pwyllgor Gwaith ei fod yn cyfeirio at gryfhau'r Cylch Gwella a gofynnodd am eglurhad o'r modd y ceir tystiolaeth o hyn ac a yw'r Gwasanaeth yn fodlon ar y cynnydd a wneir yn hyn o beth. Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod y gwasanaeth wedi atgyfnerthu'r trefniadau sicrhau ansawdd anffurfiol a oedd ar waith dair blynedd ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8