Mater - cyfarfodydd

Cofnodion

Cyfarfod: 21/07/2020 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (Eitem 2)

2 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 290 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 11 Chwefror, 2020.

 

Penderfyniad:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraeth a gynhaliwyd 11 Chwefror, 2020 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraeth a gynhaliwyd 11 Chwefror, 2020 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Yn codi o’r cofnodion

 

Gofynnodd y Pwyllgor pa bryd y byddai adroddiad Archwilio Cymru ar gynaliadwyedd ariannol y Cyngor ar gael. Roedd hwn yn un o 22 asesiad o'r fath o awdurdodau lleol yng Nghymru a gynhelid gan Archwilio Cymru. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y derbyniwyd drafft cyntaf yr adroddiad er mwyn dilysu’r ffeithiau ddiwedd mis Ionawr / dechrau mis Chwefror ac yna derbyniwyd ail fersiwn wedi'i diweddaru i adlewyrchu'r sylwadau a wnaed tua diwedd mis Mawrth, 2020 ar ddechrau cyfnod y cyfyngiadau symud. Wedi hynny, fe'i rhoddwyd i’r naill ochr wrth i'r Cyngor symud i ymateb i argyfwng pandemig Covid-19 oedd yn dod i'r amlwg. Cadarnhaodd y Swyddog fod yr ail ddrafft wedi'i glirio i'w dderbyn yr wythnos diwethaf ac y rhagwelwyd y câi’r adroddiad ffurfiol ei gyhoeddi'n derfynol yn y dyfodol agos. O ran sylwedd, daeth digwyddiadau ar warthau’r adroddiad, oedd yn fwy ymgynghorol ei natur ac yn cymharu arfer a dull awdurdodau lleol a newidiodd y sefyllfa’n sylweddol ers cyhoeddi'r fersiwn ddrafft. Un o'r pwyntiau a godwyd mewn perthynas â Chyngor Ynys Môn oedd lefel ei gronfeydd wrth gefn ariannol, yr oedd disgwyl iddi ar y pryd ostwng ymhellach ond a oedd, ers hynny, wedi gwella, fel y mae'r Datganiad Cyfrifon yn tystio iddo. Yn ogystal, nodwyd diffyg incwm masnachol y Cyngor, er y cydnabuwyd bod y cyfleoedd oedd ar gael i'r Cyngor i greu incwm o'r fath yn gyfyngedig o gymharu â chynghorau mwy mewn ardaloedd trefol. Dywedodd y Swyddog, o gofio’r sefyllfa yr oedd cynghorau bellach yn eu cael eu hunain ynddi, gallai’r ffaith nad oedd Cyngor yn Ynys Môn yn ddibynnol ar incwm masnachol am ei les ariannol fod yn fantais, gan fod y ffrydiau incwm hynny wedi lleihau’n fawr yn sgil argyfwng Covid -19. Fodd bynnag, roedd yn debygol y byddai pandemig Covid-19 yn cael effaith ariannol ar y Cyngor gan gynnwys colli incwm.