Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 07/10/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau'n codi pdf eicon PDF 673 KB

7.1 – 19C1231 - Stâd Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi.

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G5800000HzFxcEAF/19c1231?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1          19C1231 – Cais amlinellol ar gyfer codi 32 annedd marchnad a 4 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr, darparu man chwarae a mannau agored ynghyd â manylion llawn y fynedfa a’r gosodiad ar dir ger Stad Cae Rhos, Ffordd Porthdafach, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD gohirio gwneud penderfyniad ar y cais am y rhesymau a nodwyd.

 

Cofnodion:

7.1  19C1231 – Cais amlinellol ar gyfer codi 32 annedd marchnad a 4 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr, darparu man chwarae a mannau agored ynghyd â manylion llawn y fynedfa a’r gosodiad ar dir ger Stad Cae Rhos, Ffordd Porthdafach, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod atodiad i'r Asesiad Trafnidiaeth wedi’i gyflwyno sy'n cynnig bod Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar gyfer stryd unffordd yn ei gwneud yn ofynnol bod cerbydau’n teithio tua'r gogledd yn unig ar hyd Ffordd Porthdafarch o gyffordd Stryd Arthur i'r gyffordd â'r B4545 Ffordd Kingsland. Ymgynghorir ar y mater ar hyn o bryd a rhoddir cyhoeddusrwydd iddo fel rhan o'r cais.  Daw'r dyddiad ar gyfer y cyfnod ymgynghori i ben ar 8 Hydref 2020.  Yr argymhelliad yw gohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn caniatáu i'r Awdurdod Priffyrdd ymateb a derbyn unrhyw sylwadau gan y cyhoedd mewn perthynas â'r cynnig.

 

PENDERFYNWYD gohirio gwneud penderfyniad ar y cais am y rhesymau a nodwyd.