8 Ffioedd Casglu Gwastraff Gwyrdd PDF 511 KB
I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD awdurdodi:-
· Codi £35 y flwyddyn am y bin olwynion cyntaf yn y gwasanaeth casglu Gwastraff Gwyrdd a £30 y flwyddyn am finiau olwynion ychwanegol;
· Gwariant ychwanegol yn y gyllideb fel y’i nodir ym mharagraff 5.4 gyda’r gwariant ychwanegol hwn yn cael ei ariannu o’r incwm a gynhyrchir trwy godi am y gwasanaeth.
· Bod y ‘cwestiynau cyffredin’ a welir ar ddiwedd yr adroddiad hwn fel Atodiad 2 yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a'r Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo i'r Pwyllgor Gwaith i'w ystyried.
Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod y Pwyllgor Gwaith, ar 27 Ionawr, 2020, wedi cymeradwyo gwasanaeth casglu Gwastraff Gardd pythefnosol y codir tâl amdano o 1 Ebrill, 2021. Nododd mai'r Awdurdod hwn yw'r unig awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru nad yw'n codi tâl am gasglu gwastraff gardd ac mai argymhelliad Llywodraeth Cymru yw y dylid codi tâl am gasglu gwastraff gwyrdd yn unol â'r strategaeth wastraff genedlaethol 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff'. Bydd y bin gwyrdd cyfredol yn cael ei ddefnyddio gan yr aelwydydd a bydd y gwasanaeth yn casglu’r gwastraff gwyrdd 26 gwaith y flwyddyn a chodir tâl blynyddol o £35 a thâl ychwanegol o £30 am bob bin gwyrdd ychwanegol. Taliad blynyddol fydd hwn a bydd aelwydydd yn cael opsiwn i dalu ar-lein neu dros y ffôn. Darperir sticer adnabod fel rhan o'r Pecyn Gwybodaeth y bydd aelwydydd yn ei dderbyn unwaith y byddant wedi cofrestru a thalu am y gwasanaeth. Dywedodd na chodir tâl ar neuaddau pentref, mynwentydd, eglwysi a chapeli. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at y crynodeb o'r costau a amcangyfrifir fel y nodwyd nhw yn rhan 5.4 yr adroddiad a'r angen i gyflogi 2 Ymgynghorydd Gwasanaethau Cwsmer ychwanegol dros dro i weinyddu'r broses o godi tâl am gasglu gwastraff gardd.
Rhoddodd y Cynghorydd Gwilym O Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio adroddiad manwl ar y drafodaeth a gafwyd yn y Pwyllgor Sgriwtini ar 22 Hydref wrth iddo ystyried y bwriad i godi tâl am gasglu Gwastraff Gardd. Dywedodd fod y Pwyllgor Sgriwtini wedi argymell i'r Pwyllgor Gwaith y dylid codi tâl am gasglu gwastraff gardd o Ebrill 2021.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid y byddai peidio â chodi ffi am gasglu gwastraff gardd ar gyfer aelwydydd sy'n dymuno derbyn y gwasanaeth hwn wedi arwain at orfod codi'r dreth gyngor 1% ychwanegol.
Roedd y Cadeirydd o’r farn bod angen cyhoeddi Atodiad 2 o'r adroddiad oedd yn ymwneud â ‘cwestiynau cyffredin’ ar wefan y Cyngor i breswylwyr ei ei weld fel rhan o weithredu’r cynllun codi tâl am gasglu gwastraff gardd,
PENDERFYNWYD:-
· Awdurdodi codi tâl o £35 y flwyddyn am gasglu gwastraff gardd o'r bin cyntaf a £30 y flwyddyn am gasglu o finiau ychwanegol;
· Awdurdodi'r gyllideb gwariant ychwanegol fel yr amlinellir hi ym mharagraff 5.4, gyda'r gyllideb gwariant honno'n cael ei hariannu o'r incwm a gynhyrchir trwy godi tâl;
· Bod y ‘cwestiynau cyffredin’ sy'n rhan o’r adroddiad yn Atodiad 2 yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor.