Mater - cyfarfodydd

Draft Revenue Budget 20221/22

Cyfarfod: 18/01/2021 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 4)

4 Cyllideb Refeniw Ddrafft 2021/22 pdf eicon PDF 475 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol

 

·                    Yr addasiadau i’r Gyllideb sydd wedi eu cynnwys yn y Gyllideb Ddisymud fel y nodir hwy ym Mharagraffau 4 i 7 yr adrddiad.

·                    Y gyllideb ddisymud ar gyfer 2021/22, sef £147.076m, ac a ddylai fod yn sail i gyllideb refeniw 2021/22.

·                    Cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22 o 3.75% a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.

·                    Diwygiadau arfaethedig ychwanegol i’r gyllideb fel y nodir yn Nhabl 5 yr adroddiad.

·                    Cyllideb arfaethedig gychwynnol  ar gyfer 2021/22 o £147.531m.

·                    Y dylai’r Pwyllgor Gwaith ofyn am farn y cyhoedd ar y cynnig ar gyfer y gyllideb arfaethedig a’r cynnydd yn y dreth gyngor ar gyfer 2021/22.

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys y Gyllideb Refeniw ddrafft ar gyfer 2021/22 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, mai £142.146m oedd y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2020/21 h.y. y flwyddyn ariannol gyfredol. Ar gyfer 2021/22 mae nifer o newidiadau hysbys yr ymrwymwyd iddynt yn debygol o effeithio ar y gyllideb. Manylir ar y rhain yn adran 3 o'r adroddiad ysgrifenedig ac maent yn cynnwys amrywiadau yn niferoedd disgyblion, taliadau i Gais Twf Gogledd Cymru, costau Pensiwn hanesyddol a buddsoddi mewn technoleg gwybodaeth. Y newid mwyaf arwyddocaol yw cost gynyddol y Contract Casglu Sbwriel a Glanhau Strydoedd newydd gyda Biffa, sydd £909k yn uwch na’r gyllideb gyfredol. Gan ystyried yr holl addasiadau a thybiaethau fel y'u nodir yn Adran 3, cyfanswm y gyllideb ddigyfnewid ar gyfer 2021/22 yw £147.076m, cynnydd o £4.930m ar gyllideb derfynol 2020/21. Bydd setliad dros dro uwch gan Lywodraeth Cymru yn talu £3.821m o'r costau uwch gan adael diffyg cyllid o tua £1m i'w ariannu drwy Dreth y Cyngor.

 

Byddai'r gyllideb ddigyfnewid o £147.076m yn caniatáu i'r Cyngor gynnal ei wasanaethau presennol; fodd bynnag, mae'r Cyngor yn wynebu pwysau cyllidebol newydd a gofynion newydd am wasanaethau na chaniatawyd ar eu cyfer yn y gyllideb. Mae'r pwysau a'r gofynion hyn - rhai ohonynt mewn gwasanaethau sydd wedi dioddef gostyngiadau yn ystod y cyfnod o lymder - wedi dod yn fwy amlwg wrth i'r Cyngor ymateb i bandemig Covid. Manylir ar y meysydd blaenoriaeth y nodwyd bod angen cyllid ychwanegol arnynt yn adran 10.6 o'r adroddiad ac maent yn cynnwys adfer y rhaglen hyfforddeion broffesiynol; cryfhau capasiti Gwarchod y Cyhoedd; Cynhwysiant Addysg; Cymorth TG i ysgolion; rheoli twristiaeth a newid yn yr hinsawdd. Ar ôl ystyried y gyllideb ddigyfnewid ac yng ngoleuni'r ffaith bod angen cynnydd o 2.55% yn bennaf i ariannu'r cynnydd yng nghost y contract casglu sbwriel newydd, ystyriwyd cynnydd ychwanegol o 1.2% yn y Dreth Gyngor fel ffordd o ariannu'r pwysau a’r gofynion ychwanegol ar y gyllideb. Byddai cynnydd ychwanegol o 1.2% yn uwch na'r lefel sy'n ofynnol i ariannu'r gyllideb ddigyfnewid (tabl 4 ym mharagraff 9.2) yn cynhyrchu £494k ychwanegol o gyllid. Cynigir felly y dylid cynyddu lefel y Dreth Gyngor o 3.75% sy'n cyfateb i gynnydd wythnosol o 94c ar gyfer eiddo Band D.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 sylw at y risgiau canlynol i'r gyllideb

 

           Ansicrwydd o ran y dyfarniadau cyflog posibl ar gyfer y ddau brif grŵp o weithwyr llywodraeth leolathrawon a staff NJC. Er bod cyhoeddiad wedi’i wneud ym mis Tachwedd, 2020 y byddai cyflogau holl weithwyr y sector cyhoeddus (ac eithrio'r GIG) sy'n ennill dros £24,000 yn cael ei rewi, ac y byddai’r dyfarniad tâl i'r rhai sy'n ennill llai na £24,000 o leiaf yn £250, nid Llywodraeth y DU sy'n pennu'r dyfarniad  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4