3 Cyllideb Gyfalaf Cychwynnol 2021/22 PDF 490 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd -
• Argymell i'r Cyngor llawn y rhaglen gyfalaf ganlynol ar gyfer 2021/22:-
Cynlluniau/Cyllid a ddygwyd ymlaen
o 2020/21 £ 3.970m
Adnewyddu / Amnewid Asedau £ 4.167m
Prosiectau Cyfalaf Untro Newydd (Prosiectau
Blaenoriaeth) £ 780k
Prosiectau Cyfalaf Untro Newydd
(yn amodol fod cyllid ar gael) £ 325k
Ysgolion yr 21ain Ganrif £6.6m
Cyfrif Refeniw Tai £20.313m
Cyfanswm y Rhaglen Gyfalaf £36.155m
Cyllidir gan:
Grant Cyfalaf Cyffredinol £2.163m
Benthyca â Chefnogaeth Cyffredinol £2.158m
Balansau Cyffredinol £ 596k
Balansau Cyffredinol
(os oes digon o gyllid ar gael) £ 325k
Benthyca â Chefnogaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif £2.897m
Benthyca Digefnogaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif £ 498k
Arian Wrth Gefn CRT a’r Gwarged yn y Flwyddyn £15.639m
Benthyca Digefnogaeth gan y CRT £ 2.0m
Grantiau Allanol £5.909m
Cyllid 2020/21 a Ddygwyd Ymlaen £3.970m
Cyfanswm Cyllid Cyfalaf 2021/22 £36.155m
• Nodi’r gofynion cyllido posibl ar gyfer 2022/23 ymlaen fel y nodir yn Atodiad 1, Tabl 3 a pharagraff 5.3 yr adroddiad.
• Oherwydd y pwysau ar y gyllideb gyfalaf, bod yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo yn gwneud cynrychioliadau drwy lythyr i Weinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru bod cynlluniau awdurdod lleol ar gyfer atal/lliniaru llifogydd yn y dyfodol yn cael eu hariannu 100% gan grant Llywodraeth Cymru, a
• Bod yr Aelod Portffolio Cyllid yn ysgrifennu at Weinidog Cyllid Llywodraeth Cymru er mwyn tynnu sylw at y pwysau ar y gyllideb gyfalaf yn Ynys Môn o ganlyniad i ddiffyg cynnydd yn y cyfalaf cyffredinol dros y blynyddoedd a’r cyfyngiadau y mae hyn yn debygol o’i roi ar gynlluniau’r Cyngor o ran gweithgareddau cyfalaf a buddsoddiadau.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 sy'n cynnwys y gyllideb gyfalaf gychwynnol ar gyfer 2021/22 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, yr adroddiad drwy esbonio y bydd y gyllideb gyfalaf arfaethedig gychwynnol, fel rhan o'r broses o bennu'r gyllideb ynghyd â chynigion y gyllideb refeniw ddrafft o dan yr eitem ddilynol, yn destun ymgynghoriad ffurfiol â'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a'r cyhoedd. Yna bydd y Pwyllgor Gwaith yn gwneud ei argymhellion terfynol ynghylch cyllideb 2021/22 i'r Cyngor Sir. Bydd cyfarfod y Cyngor Llawn ar 9 Mawrth, 2021 wedyn yn cymeradwyo’r gyllideb a lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ei bod wedi bod yn anos llunio'r gyllideb gyfalaf eleni oherwydd diffyg cyllid sy'n golygu y bydd yn rhaid dod o hyd i arian ychwanegol er mwyn cyflawni’r prosiectau cyfalaf a argymhellir yn llawn. Cyfanswm y Cyllid Cyfalaf Cyffredinol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22 (ac eithrio'r rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif a'r Cyfrif Refeniw Tai) yn seiliedig ar ffigurau dros dro y setliad Llywodraeth Leol yw £4.321m. O'r swm yma, mae angen £4.167m i gefnogi'r rhaglen ar gyfer adnewyddu a newid asedau presennol yn unol â’r Strategaeth Gyfalaf a fabwysiadwyd gan y Cyngor. Argymhellir cynnwys pedwar prosiect cyfalaf untro yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021/22 ac mae'r rhain yn dod i gyfanswm o £1.105m sy'n fwy na'r £921k sydd ar gael. Gallai tanwariant posibl yn y gyllideb refeniw ar gyfer 2020/21 olygu y gellid ychwanegu £1m ychwanegol at y gronfa gyffredinol y gellid ei defnyddio i ariannu'r gwariant cyfalaf ychwanegol yn 2021/22. Fodd bynnag, nid oes sicrwydd o hyn ac os bydd sefyllfa'r gyllideb refeniw yn dirywio yn ystod ail hanner y flwyddyn ariannol, gall lefel y cyllid sydd ar gael fod yn llai nag £1m. O'r 4 cynllun untro a nodir yn Nhabl 4 o'r adroddiad ystyrir bod angen rhoi blaenoriaeth i’r arian cyfatebol ar gyfer prosiectau Datblygu Economaidd (£95k) a phrynu llyfrau chrome i ddisgyblion (£305k) sy'n golygu, os nad oes digon o arian wrth gefn ar gael, yna efallai y bydd yn rhaid gwario llai ar y ddau gynllun arall – gosod wyneb newydd ar ardaloedd chwarae a chynlluniau lliniaru llifogydd. Cynigir cyfanswm rhaglen gyfalaf o £36.155m ar gyfer 2021/22.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 mai un o egwyddorion allweddol y Strategaeth Gyfalaf yw y bydd cyllid cyfalaf yn cael ei ddyrannu bob blwyddyn i sicrhau y buddsoddir yn asedau presennol y Cyngor i'w diogelu ar gyfer y dyfodol; mae'r flaenoriaeth hon wedi'i chyflawni ar y cyfan drwy Grant Cyfalaf Llywodraeth Cymru a benthyca â chymorth. Mae'r ddau bennawd yma wedi aros yn weddol gyson dros nifer o flynyddoedd gyda Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau gwariant cyfalaf penodol drwy gyllid grant. Mae hyn yn golygu bod y cyllid craidd sydd ar gael at ddibenion cyfalaf ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3