4 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 387 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Rhaglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Mawrth i Hydref, 2021 gyda’r newid ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng mis Mawrth 2021 a mis Hydref 2021 a nodwyd y newidiadau a ganlyn -
· Eitemau newydd –
· Eitem 9 – Ffioedd a Thaliadau – ar gyfer y cyfarfod ar 1 Mawrth 2021
· Eitem 13 - Moderneiddio Ysgolion Ardal Llangefni - wedi ei raglennu’n wreiddiol ar gyfer y cyfarfod ar 1 Mawrth 2021 ond ar ôl cyhoeddi’r Rhaglen Waith derbyniwyd cais i ail-raglennu’r eitem i gyfarfod yn ddiweddarach ym mis Mawrth, ar ddyddiad i’w gadarnhau.
· Eitem 22 – Adroddiad Cynnydd gan y Panel Gwasanaethau Cymdeithasol – ar gyfer y cyfarfod ar 22 Mawrth, 2021.
· Eitem a ailraglennwyd:
· Eitem 21 – Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) a ailraglenwyd o’r cyfarfod ar 1 Mawrth i’r cyfarfod ar 22 Mawrth 2021.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng mis Chwefror a mis Medi 2021 gyda’r newid ychwanegol y cyfeiriwyd ato yn y cyfarfod.