7 Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Dibreswyl yn y Gymuned – Ffioedd a Thaliadau 2021/22 PDF 311 KB
I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion dros dro.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –
· Taliadau am wasanaethau Teleofal fel y nodir yn Nhabl A yr adroddiad
Haen 1 bydd pawb yn talu £49.41.
Haen 2 a 3 bydd pawb yn talu £98.42
· Taliadau am wasanaethau Teleofal fel y nodir yn Nhabl B yr adroddiad
Gwasanaeth a Chynnal a Chadw £117.54
Gwasanaeth yn Unig £75.97
Costau Gosod Untro £47.00
· Cyfradd taliadau uniongyrchol ar £11.89 yr awr
· Parhau i godi tâl o £10 am weinyddu ceisiadau Bathodyn Glas ac am fathodynau newydd fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
· Cynyddu’r ffi am brynu gwasanaethau gofal dydd i mewn gan gartrefi annibynnol 3% i £35.21
Cofnodion:
Cyflwynwyd i'w ystyried, adroddiad y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo ffioedd a thaliadau arfaethedig am wasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl yn y gymuned ar gyfer 2021/22.
Dywedodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio dros Wasanaethau Cymdeithasol ei bod yn arferol adolygu’r taliadau mewn perthynas â gwasanaethau cartref yn flynyddol i gyd-ddigwydd ag adolygiad y Llywodraeth Ganolog o lefelau budd-daliadau a phensiynau. Mae'r adroddiad yn nodi ffioedd a thaliadau gofal cymdeithasol dibreswyl cymunedol ar gyfer 2021/22 yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –
• Taliadau am wasanaethau Teleofal fel y nodir yn Nhabl A yr adroddiad
Haen 1 bydd pawb yn talu £49.41.
Haen 2 a 3 bydd pawb yn talu £98.42
• Taliadau am wasanaethau Teleofal fel y nodir yn Nhabl B yr adroddiad
Gwasanaeth a Chynnal a Chadw £117.54
Gwasanaeth yn Unig £75.97
Costau Gosod Untro £47.00
• Cyfradd taliadau uniongyrchol ar £11.89 yr awr
• Parhau i godi tâl o £10 am weinyddu ceisiadau Bathodyn Glas ac am fathodynnau newydd fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
• Cynyddu’r ffi am brynu gwasanaethau gofal dydd i mewn gan gartrefi annibynnol 3% i £35.21