Mater - cyfarfodydd

Capital Strategy and Capital Programme

Cyfarfod: 01/03/2021 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 11)

11 Strategaeth Gyfalaf a Rhaglen Gyfalaf 2021/22 i 2023/24 pdf eicon PDF 1 MB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau ac argymell bod y Cyngor llawn yn cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2021/22 – 2023/24 fel y mae wedi’i dangos yn Atodiadau 1 a 2 o’r adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn ymgorffori'r Strategaeth Gyfalaf a'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2021/22 i 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid fod Côd Darbodus diwygiedig CIPFA, Medi 2017 yn cyflwyno’r gofyn bod yn rhaid i bob awdurdod gynhyrchu strategaeth gyfalaf sy’n nodi’r cyd-destun tymor hir y mae gwariant cyfalaf a phenderfyniadau buddsoddi yn cael eu gwneud ynddo. Nod y gofyn hwn ydi sicrhau bod awdurdodau yn gwneud penderfyniadau cyfalaf a buddsoddi yn unol ag amcanion gwasanaethau a'u bod yn cymryd i ystyriaeth  stiwardiaeth, gwerth am arian, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd. Dangosir y rhaglen gyfalaf ddrafft ar gyfer 2021/22 a ffynonellau cyllid yn adran 7.1 o'r strategaeth ac fe'i cyflwynir i i'r Cyngor Llawn, ynghyd â'r strategaeth, i'w cymeradwyo ar 9 Mawrth, 2021. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 nad yw'r Strategaeth Gyfalaf wedi newid ers y llynedd ac mae'n nodi'r blaenoriaethau allweddol ar sut y dylid gwario arian cyfalaf i helpu i gyflawni Cynllun y Cyngor am y cyfnod 2017-22. Mae'n effeithio ar, ac yn cael ei heffeithio gan y Cynllun Ariannol Tymor Canol, y Strategaeth Rheoli Trysorlys, y Gyllideb Refeniw Flynyddol a'r Rhaglen Gyfalaf Flynyddol.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor Gwaith fod lefel y cyllid cyfalaf a ddarperir gan Lywodraeth Cymru drwy’r Grant Cyfalaf Cyffredinol a benthyca â chymorth wedi aros yn gyson dros nifer o flynyddoedd a rhagwelir y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw’r cyllid hwn ar yr un lefel neu lai yn y dyfodol. Y strategaeth felly yw canolbwyntio'r cyllid hwn ar ymestyn hyd oes asedau' heneiddiol y Cyngor a chadw i fyny ag uwchraddiadau technolegol. Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn wynebu her gynyddol i barhau i gynnal ei asedau gyda'r cyllid cyfalaf y mae'n ei dderbyn ac mae'n dod yn fwyfwy anodd gwneud y buddsoddiadau angenrheidiol yn ei asedau i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ddefnyddiol. Er enghraifft, mae cynnal adeiladau ysgol y Cyngor hyd yn oed i'w safon gyfredol yn dod yn her ac mae hyn, yn ei dro, yn codi materion o ran dirywiad asedau yn y dyfodol a chostau gwaith cynnal a chadw sydd yn cronni. Dyfernir grantiau cyfalaf i'r Cyngor ar gyfer prosiectau penodol ond fel rheol mae amodau ynghlwm wrth y rhain ac oherwydd eu bod wedi ei neilltuo i brosiectau penodol yn unig, maent wedyn yn cyfyngu ar y dewis sydd gan y Cyngor o ran ei Strategaeth Gyfalaf. 

 

Wrth gymeradwyo'r Strategaeth Gyfalaf cydnabu'r Pwyllgor Gwaith y cyfyngiadau cyllido ar y Cyngor o ran gwariant cyfalaf. 

 

Penderfynwyd cadarnhau ac argymell bod y Cyngor llawn yn cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2021/22 – 2023/24 fel y mae wedi’i dangos yn Atodiadau 1 a 2 o’r adroddiad.