Mater - cyfarfodydd

Capital Budget 2021/22

Cyfarfod: 01/03/2021 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 12)

12 Cyllideb Gyfalaf Arfaethedig Terfynol ar gyfer 2021/22 pdf eicon PDF 704 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn y rhaglen gyfalaf ganlynol ar gyfer 2021/22 –   

                                                                                       £

Cynlluniau a ddygwyd ymlaen o 2020/21              4.000m

Adnewyddu/Amnewid Asedau                               4.137m

Prosiectau Cyfalaf Untro

(Prosiectau Blaenoriaeth)                                       0.780m

 

 Prosiectau Cyfalaf Untro (Yn amodol bod

 cyllid ar Gael)                                                           0.325m                                          

 

Ysgolion 21ain Ganrif                                               6.600m

Cyfrif Refeniw Tai                                                 20.313m

 

Cyfanswm Rhaglen gyfalaf a argymhellir

ar gyfer 2021/22                                                    36.155m

 

Cyllidir gan –

 

Grant Cyfalaf Cyffredinol                                       2.163m

Benthyca â Chymorth Cyffredinol                        2.158m

Balansau Cyffredinol                                              0.291m

Balansau Cyffredinol (Os oes cyllid digonol

ar gael)                                                                    0.325m

Benthyca â Chymorth

Ysgolion 21ain Ganrif                                              2.897m

Benthyca Di-gymorth

Ysgolion 21ain Ganrif                                              0.498m

CRT wrth gefn a Gwarged

yn y Flwyddyn                                                      15.639m

Benthyca Digefnogaeth CRT                                2.000m

 

Grantiau Allanol                                                     6.184m

Cynlluniau a ddygwyd

Ymlaen 2020/21            

(Grantiau Allanol)                                                  4.000m

 

Cyfanswm Cyllid Cyfalaf 2021/22                        36.155m

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn ymgorffori'r gyllideb gyfalaf arfaethedig derfynol ar gyfer 2021/22 i'w ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, fod diffyg cyllidol wedi ei nodi pan ddatblygwyd y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2021/22 ac y cynigir bod y diffyg yn cael ei bontio trwy ddefnyddio'r Balansau Cyffredinol oherwydd y tanwariant a ragwelwyd ar Gyllideb Refeniw 2020/21. Yn yr un modd â'r cynigion drafft ar gyfer Cyllideb Refeniw 2021/22, bu'r Rhaglen Gyfalaf ddrafft ar gyfer 2021/22 yn destun ymgynghoriad cyhoeddus a cheir crynodeb o sylwedd yr ymatebion a dderbyniwyd yn adran 2 yr adroddiad. Wrth gynnig y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021/22, dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod yn ymwybodol o'r heriau i'r dyfodol o ran gwariant ac adnoddau cyfalaf.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 wybod i'r Pwyllgor Gwaith am y newidiadau ers i'r Rhaglen Gyfalaf ddrafft gael ei chyflwyno ym mis Ionawr 2021 fel yr adlewyrchir yn adran 3 yr adroddiad, a'r prif newid oedd cyllido Chromebooks ar gyfer ysgolion trwy grant allanol yn hytrach na thrwy gronfeydd wrth gefn cyffredinol sydd wedi ei gynnwys yn fersiwn ddiweddaredig y Rhaglen Gyfalaf a gynigir ar gyfer 2021/22  ac a welir yn Nhabl 2. Yn ogystal, mae'r tanwariant a ragwelir o £22m ar Raglen Gyfalaf gyfredol 2020/21 yn seiliedig ar y sefyllfa alldro a ragwelwyd ar ddiwedd Chwarter 3. Adroddir ar y sefyllfa alldro wirioneddol ar ddiwedd Chwarter 4 i'r Pwyllgor Gwaith mewn adroddiad ar wahân ar alldro cyfalaf a bydd unrhyw lithriadau y gofynnir iddynt gael eu dwyn ymlaen i 2021/22 yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith bryd hynny. Efallai y ceir grantiau cyfalaf hefyd ar ôl cwblhau'r broses gosod cyllideb sy'n golygu y gellir ychwanegu cynlluniau at y rhaglen ac felly gall cyfanswm y gyllideb newid.

 

Adroddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar drafodaethau o gyfarfod y Pwyllgor ar 16 Chwefror a chadarnhaodd fod y Pwyllgor, ar ôl trafodaeth ac ystyried y broses ymgynghori gyhoeddus, wedi cefnogi'r cynigion ar gyfer cyllideb gyfalaf 2021/22.

 

Adroddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid fod y Panel wedi nodi bod ymatebion y cyhoedd i'r ymgynghoriad yn nodi bod llai o gefnogaeth i fuddsoddi os yw'n  arwain at Dreth Gyngor uwch. O ran y rhagolygon tymor hwy, roedd y Panel yn poeni am gyflwr adeiladau'r Cyngor yn enwedig ei ysgolion a'r rhagolygon o ran buddsoddi ynddynt.

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn y rhaglen gyfalaf ganlynol ar gyfer 2021/22 –                                                                                                                                                                                        £

 

Cynlluniau a ddygwyd ymlaen o 2020/21  4.000m

Adnewyddu/Amnewid Asedau                    4.137m

Prosiectau Cyfalaf Untro (Prosiectau

Blaenoriaeth)                                                 0.780m

Prosiectau Cyfalaf Untro (Yn amodol

bod cyllid ar Gael)                                       0.325m

 

Ysgolion 21ain Ganrif                                   6.600m

Cyfrif Refeniw Tai                                          20.313m

 

Cyfanswm y Rhaglen
gyfalaf a argymhellir                                      36.155m

 

Cyllidwyd gan:

 

Grant Cyfalaf Cyffredinol                              2.163m

Benthyca â chymorth - cyffredinol              2.158m  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12