Mater - cyfarfodydd

Departure Applications

Cyfarfod: 10/02/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

10 Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 247 KB

10.1 – VAR/2020/60 – Ty Newydd, Llanfair yn Neubwll

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NA2fmUAD/var202060?language=cy

 

10.2 – FPL/2020/249 – Tyddyn Orsedd, Rhoscefnhir

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NB2X8UAL/fpl2020249?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

10.1  VAR/2020/60 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (08)(Cynllun tirwedd) a (09)(Cynlluniau a Gymeradwywyd) o caniatâd cynllunio rhif 32C128F (Codi annedd) er mwyn caniatáu dyluniad diwygiedig a chyflwyno cynllun tirlunio ar ôl i’r gwaith ddechrau ar dir yn Tŷ Newydd, Llanfair yn Neubwll.

 

         Penderfynwyd cymeradwyo’r cais ac i roi’r grym i Swyddogion weithredu unwaith y byddai’r cyfnod o ymgynghori statudol wedi dod i ben.

 

10.2  FPL//2020/249 – Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd a datblygiadau cysylltiedig (er mwyn diwygio dyluniad ac gosodiad a ganiateir odan cais cyfeirnod 42C258A) ar dir tu cefn i Tyddyn Orsedd, Rhoscefnhir.

 

 

        Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad a bod Amod 1 o fewn yr adroddiad yn cael ei ddiwygio er

       mwyn adlewyrchu’r ffaith na fydd y datblygiad yn dechrau ddim hwyrach na 8 Rhagfyr, 2022 o ganlyniad i’r sefyllfa wrth gefn gan fod y

       safle eisoes â chaniatad cynllunio sy’n bodoli.

Cofnodion:

10.1  VAR/2020/60 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (08 )(Cynllun tirweddu) a (09)(Cynlluniau a Gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif 32C128F (Codi annedd) er mwyn caniatáu dyluniad diwygiedig a chyflwyno cynllun tirweddu ar ôl i’r gwaith ddechrau ar dir yn Nhŷ Newydd, Llanfair yn Neubwll

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn gwyro oddi wrth y cynllun datblygu y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod rhan o'r annedd a'i gwrtil wedi'u lleoli y tu allan i ffin yr anheddiad a ddiffinnir o dan ddarpariaethau polisi PCYFF1 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a’i fod felly'n gwyro oddi wrth y cynllun datblygu presennol.  O ystyried bod caniatâd cynllunio ar gael ar gyfer annedd breswyl ar y safle, nid yw'n arwain at argymhelliad i wrthod yn unol â darpariaethau polisi PCYFF1.   Dywedodd hefyd nad yw'r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod i ben tan 11 Chwefror, 2021 a gofynnodd i'r Swyddogion gael y pŵer i weithredu yn dilyn y cyfnod ymgynghori cyhoeddus os na ddaw unrhyw sylwadau newydd i law.

 

Cynigiodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoi pŵer i'r Swyddog weithredu ar ôl i'r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.

 

10.2  FPL//2020/249 - Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd â datblygiadau cysylltiedig (er mwyn diwygio’r dyluniad a’r gosodiad a ganiatawyd o dan gais cyfeirnod 42C258A) ar dir y tu cefn i Dyddyn Orsedd, Rhoscefnhir

 

Cyflwynir y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol o’r farn y dylid ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod gan y cais ganiatâd cynllunio sy'n bodoli eisoes ac ystyrir y byddai'r diwygiadau i'r dyluniad yn welliant i'r cais a ganiatawyd yn flaenorol.  Bu gwrthwynebiad i'r cais gan drigolion lleol oherwydd hawliau preifat o ran draenio dŵr wyneb ond materion cyfreithiol y tu allan i'r cylch gwaith cynllunio yw'r rhain a byddai angen dod i gytundeb ynglŷn â’r rhain cyn datblygu'r safle.  Mae angen diwygio Amod 1 yn yr adroddiad i adlewyrchu y bydd y datblygiad yn dechrau erbyn 8 Rhagfyr 2022 fan bellaf gan fod gan y safle ganiatâd cynllunio sy'n bodoli eisoes.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Eric W Jones.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn ddarostyngedig i’r amodau cynllunio sydd yn yr adroddiad ysgrifenedig ac y dylid diwygio Amod 1 yn yr adroddiad i adlewyrchu y bydd y datblygiad yn dechrau erbyn 8 Rhagfyr 2022 fan bellaf oherwydd y sefyllfa wrth gefn gan fod gan y safle ganiatâd cynllunio sy'n bodoli eisoes.