Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 10/02/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 218 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

11.1  MAQ/2020/29 – Mân newidiadau i gynllun

         sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan

         caniatád cynllunio FPL/2020/73 er mwyn

         diwygio dyluniad ynghyd a tynnu amod (08)

         (draenio mewn perthynas â phriffyrdd)

          yn Parciau,Llanddaniel

 

          Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol

          ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn

          amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi

          eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

11.2  VAR/2020/74 – Cais o dan Adran 73 i

         ddiwygio amod (06) o ganiatâd cynllunio rhif

         45C83E (newid defnydd y

         gweithdy presennol i dri annedd) er mwyn

         ychwanegu 2 porth yn Tre Wen, Pen Lôn,

         Niwbwrch.

 

         Penderfynwyd cymeradwyo’r cais ac i roi’r

         grym i Swyddogion weithredu unwaith y     

         byddai’r cyfnod o ymgynghori statudol wedi

         dod i ben.

 

Cofnodion:

11.1  MAQ/2020/29 - Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio FPL/2020/73 er mwyn diwygio dyluniad ynghyd â dileu amod (08) (draenio mewn perthynas â phriffyrdd) yn Parciau, Llanddaniel

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeiswyr yn swyddogion perthnasol.  Mae'r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad. 

 

Ar ôl datgan ddatgan diddordeb sy’n rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y cyfarfod tra bod aelodau’n trafod a phleidleisio ar y mater.

 

Adroddodd y Rheolwr Amgylchedd Adeiledig a Naturiol Cynllunio y bydd y cais hwn yn gwneud mân newidiadau i'r datblygiad a ganiatawyd ym mis Awst 2020.  Mae'r newidiadau'n cyfeirio at newid y ffenestri ar y stydi ar ddrychiad blaen y llawr gwaelod, drwy ddod â’r ffenestri yn unionlin â’r drychiad blaen, ac yn hytrach na drws deublyg, mae'r gwydrau'n cael eu newid am ffenestr gyda dyluniad mwy confensiynol gydag un drws gwydr yn agor.  Yn ogystal â hyn, mae'r ymgeiswyr am ddileu amod 8 yn y cais a ganiatawyd yn flaenorol o ran dŵr wyneb o fewn cwrtil y safle ac mae'r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau bod dileu'r amod yn dderbyniol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Eric W Jones.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn ddarostyngedig i'r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

11.2  VAR/2020/74 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (06) o ganiatâd cynllunio rhif 45C83E (addasu’r gweithdy presennol yn dri annedd) er mwyn ychwanegu 2 borth yn Nhre Wen, Pen Lôn, Niwbwrch

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol.  Mae'r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 o'r Cyfansoddiad.  Mae'r cais yn gwyro oddi wrth y cynllun datblygu y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais ar gyfer amrywio amod (06) caniatâd cynllunio 45C83E i ganiatáu ychwanegu 2 borth o flaen yr anheddau.  Dywedodd nad oedd gwrthwynebiad i'r cais gan yr ymgyngoreion statudol na thrigolion lleol ond ei fod yn cael ei adrodd i'r Pwyllgor gan ei fod yn groes i bolisi cynllunio TAI 7 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.  Dywedodd hefyd nad yw'r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod i ben tan 18 Chwefror, 2021 a gofynnodd i'r Swyddog gael y pŵer i weithredu yn dilyn y cyfnod ymgynghori cyhoeddus os na ddaw unrhyw sylwadau newydd i law.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Dafydd Roberts y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoi pŵer i'r Swyddog weithredu ar ôl i'r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.