9 Ffioedd a Thaliadau 2021/22 PDF 1 MB
I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo’r Ffioedd a Thaliadau ar gyfer 2021/22 fel a amlinellwyd yn y llyfryn a gyflwynwyd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn gofyn i'r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo'r rhestr a gynigiwyd o ffioedd a thaliadau ar gyfer 2021/22 fel yr atodwyd.
Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid fod adolygiad o ffioedd a thaliadau yn rhan o'r broses flynyddol o osod y gyllideb. Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi gosod amcan bod yr holl ffioedd a thaliadau anstatudol yn cynyddu 3% ar gyfartaledd ar draws pob gwasanaeth unigol. Mae hyn wedi caniatáu i Benaethiaid Gwasanaeth gynyddu ffioedd unigol gan fwy neu lai na 3%, ond ar y cyfan, mae'r cynnydd ar draws y gwasanaethau yn cyfateb i gynnydd o 3%. Cynyddwyd yr holl ffioedd statudol yn ôl y swm a bennwyd gan y corff cymeradwyo, lle mae'r cynnydd hwnnw wedi'i gyhoeddi. Os nad yw'r tâl diwygiedig yn hysbys, dangosir bod y ffi i'w chadarnhau (i'w gadarnhau) a bydd yn cael ei diweddaru unwaith y derbynnir yr hysbysiad o'r ffi newydd. Mae cynnydd mewn ffioedd mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol yn destun adroddiadau ar wahân.
Penderfynwyd cymeradwyo’r Ffioedd a Thaliadau ar gyfer 2021/22 fel yr amlinellwyd yn y llyfryn a gyflwynwyd.