11 Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 297 KB
11.1 FPL/2021/7 – Prysan Fawr, Bodedern
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NCZRtUAP/fpl20217?language=cy
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
11.1 FPL/2021/7 – Cais llawn ar gyfer cadw a chwblhau’r sied amaethyddol ynghyd â gosod ffos gerrig ar dir yn Prysan Fawr, Bodedern
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle ar gais yr aelod lleol am y rhesymau a roddwyd.
Cofnodion:
11.1 FPL/2021/7 – Cais llawn ar gyfer cadw a chwblhau’r sied amaethyddol ynghyd â gosod ffos gerrig ar dir yn Prysan Fawr, Bodedern
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol fel y'i diffinnir ym mharagraff 4.6.10.2 o'r Cyfansoddiad. Mae'r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 o'r Cyfansoddiad.
Ar ôl datgan diddordeb personol yn y cais hwn ni chymerodd y CynghoryddJohn Griffith ran yn y drafodaeth na phleidleisio maes o law.
Gwnaed cais gan y Cynghorydd K P Hughes ac aelod lleol i ymweld â safle'r cais fel y gall y Pwyllgor weld y safle a'r effaith ar Adeiladau Rhestredig cyfagos gerllaw. Eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cynnig i drefnu ymweliad safle.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn ddarostyngedig i'r amodau sydd yn yr adroddiad ysgrifenedig.