Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 07/04/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 753 KB

7.1  FPL/2021/7 – Prysan Fawr, Bodedern

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NCZRtUAP/fpl20217?language=cy

 

7.2  FPL/2020/164 – Bwthyn Lleiniog, Penmon, Biwmares

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MiUpVUAV/fpl2020164?language=cy

 

7.3  FPL/2020/247 – Stad Y Bryn, Llanfaethlu

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NB0iuUAD/fpl2020247?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1 FPL/2021/7 – Cais llawn ar gyfer cadw a chwblhau’r sied amaethyddol ynghyd â gosod ffos gerrig ar dir yn Prysan Fawr, Bodedern

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a restrir yn yr adroddiad.

 

7.2 FPL/2020/164 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad allanol i lety gwyliau ynghyd ag addasu ac ehangu yn Bwthyn Lleiniog, Penmon, Biwmares

 

Penderfynwyd gohirio’r penderfyniad ar y cais er mwyn i’r Pwyllgor dderbyn gwybodaeth am y lleiniau gwelededd o fynedfa safle’r cais.

(Ataliodd y Cynghorydd Eric Jones ei bleidlais)

 

7.3 FPL/2020/247 – Cais llawn ar gyfer codi 9 annedd ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ger Stad Y Bryn, Llanfaethlu

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a restrir yn yr adroddiad ac yn amodol hefyd ar gwblhau cytundeb cyfreithiol yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparu dwy uned fforddiadwy.

Cofnodion:

7.1 FPL/2021/7 – Cais llawn i gadw a chwblhau'r sied amaethyddol ynghyd â gosod ffos gerrig ar dir yn Prysan Fawr, Bodedern.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i “swyddog perthnasol” fel y’i diffinnir ym mharagraff 4.6.10.2 o Gyfansoddiad y Cyngor. Mae'r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 o'r Cyfansoddiad. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mawrth, 2021, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle cyn penderfynu ar y cais. Yn dilyn hynny, cynhaliwyd ymweliad rhithwir â’r safle ar 17 Mawrth, 2021.

 

Gan ei fod wedi datgan diddordeb yn y cais hwn, nid oedd y Cynghorydd John Griffith yn bresennol ar gyfer y drafodaeth na'r bleidleisio arno.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn gais ôl-weithredol i gadw a chwblhau'r sied amaethyddol sydd wedi'i chodi ar y tir, ynghyd â gosod ffos gerrig. Ar adeg ysgrifennu'r adroddiad, roedd un llythyr gyda sylwadau wedi'i dderbyn sy'n codi'r materion sydd yn cael sylw yn yr adroddiad. Mae'r adeilad sy'n destun y cais wedi'i godi’n rhannol y tu ôl i'r Adeiladau Rhestredig Gradd II sy'n rhan o grŵp fferm cyflawn gyda'r eiddo, ac er gwaethaf pryderon cychwynnol am yr effaith ar yr adeiladau rhestredig oherwydd lliw'r cladin ar yr adeilad, mae Ymgynghorydd Treftadaeth y Cyngor wedi cadarnhau ers hynny bod y cynllun yn dderbyniol yn dilyn diwygiadau a fydd yn gweld yr adeilad yn cael ei orffen mewn cladin allanol llwyd yn hytrach na gwyrdd a fydd yn lleihau ei effaith yn erbyn yr adeilad rhestredig. Nid yw'r Ymgynghorydd Tirwedd wedi codi unrhyw wrthwynebiadau gan ei fod yn ystyried y bydd lleoliad a maint yr adeilad, ynghyd â'r defnyddiau i'w adeiladu, yn sicrhau math o ddatblygiad sy'n cydweddu'n dda â'r dirwedd tra hefyd yn gydnaws â'r adeiladau rhestredig sydd gyferbyn â safle'r cais. Yn amodol ar ddefnyddio'r deunydd cladin allanol fel yr argymhellwyd gan yr Ymgynghorydd Treftadaeth, mae'r argymhelliad felly yn un o gymeradwyo. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y cysylltwyd ag ef mewn perthynas â phryderon ynghylch agosrwydd y sied amaethyddol at yr adeiladau rhestredig a'i fod yn ddiolchgar i'r Pwyllgor am gytuno i'r cais am ymweliad rhithwir â'r safle gan ei fod yn credu ei fod yn briodol - oherwydd bod hwn yn gais ôl-weithredol a bod y sied wedi'i chodi'n rhannol - i'r Aelodau gael golwg ar safle'r cais drostynt eu hunain. Ar ôl gweld y safle a'r cynnig yn yr ymweliad rhithwir, 'roedd yn cytuno ag asesiad y Swyddog, ac er bod y sied yn agosach at yr adeiladau rhestredig nag y byddai wedi bod efallai pe dilynwyd  y broses gynllunio gywir, nid oedd yn credu bod ei heffeithiau yn cyfiawnhau gwrthod y cais ac felly roedd yn hapus i gynnig cymeradwyo'r cais. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a restrir yn yr adroddiad.

 

7.2 FPL/2020/164 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd o’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7