Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 07/04/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 314 KB

11.1 HHP/2021/12 – Llain Farged, Ffordd Eleth, Moelfre

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NCX1UUAX/hhp202112?language=cy

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

11.1 HHP/2021/12 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Llan Farged, Ffordd Eleth, Moelfre

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a restrir yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

11.1    HHP/2021/12 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Llain Farged, Ffordd Eleth, Moelfre

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei wneud gan swyddog perthnasol sy'n gweithio yn yr Awdurdod Lleol. Mae'r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un i godi estyniad unllawr yng nghefn yr eiddo i ddarparu lle ar gyfer ystafell haul ynghyd â chodi estyniad ochr deulawr. Mae'r safle wedi'i leoli yng nghefn gwlad agored a chan ei fod yn gymharol ynysig ei natur nid ystyrir y bydd y cynnig yn cael unrhyw effaith ar fwynderau preswyl na'r ardal ehangach. Fel rhan o ddatblygiad y safle bydd y llwybr troed cyhoeddus yn cael ei wyro ac er bod deiseb yn gwrthwynebu ac arni 5 llofnod wedi'i derbyn sy'n gwrthwynebu'r cynllun ar y sail hon, nid yw gwyro'r llwybr troed yn rhan o'r cais cynllunio a rhoddwyd caniatâd eisoes i'r gwyriad gan yr Awdurdod Priffyrdd o dan drefn ar wahân. Gan na chodwyd unrhyw wrthwynebiadau i'r estyniadau arfaethedig, yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a restrir yn yr adroddiad.