Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 07/04/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1 FPL/2021/10 – Cais ôl-weithredol ar gyfer codi modurdy ar dir ger Bron Castell, Llanfairynghornwy

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.2 MAO/2021/1 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio 34C304K/1/EIA/ECON er mwyn galluogi cychwyn gwaith ar blotiau ar wahân yn Safle B ar dir yng Ngholeg Menai, Llangefni

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r newid ychwanegol i eiriad amod (37) fel y cafodd ei amlinellu.

 

12.3 MAH/2021/2 - Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio FPL/2019/300 er mwyn diwygio'r dyluniad yn 15 Coedwig Terrace, Penmon

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog.

 

12.4 FPL/2020/191 – Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd a chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Rallt Gwta, Niwbwrch

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio yn yr adroddiad ac ar yr amod hefyd na fydd unrhyw faterion newydd yn cael eu codi cyn y daw’r cyfnod cyhoeddusrwydd i ben ar 15 Ebrill 2021.

Cofnodion:

12.1 FPL/2021/10 – Cais ôl-weithredol ar gyfer codi modurdy ar dir ger Bron Castell, Llanfairynghornwy 

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl i Aelod Lleol ei alw i mewn oherwydd pryderon yn y gymuned leol ynghylch maint, lleoliad a dyluniad y garej.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Llinos Medi, Aelod Lleol, i'r Pwyllgor gynnal ymweliad rhithwir o safle'r cais i gael gwell syniad o'r datblygiad yn ei gyd-destun.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Robin Williams y dylid cynnal ymweliad rhithwir â'r safle.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.2 MAO/2021/1 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio 34C304K/1/EIA/ECON er mwyn galluogi cychwyn gwaith ar blotiau ar wahân yn Safle B ar dir yng Ngholeg Menai, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan y bu  cais 35C304K/1/ EIA/ ECON yn destun Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol ac fe'i penderfynwyd gan y Pwyllgor.

 

Gan eu bod wedi datgan diddordeb yn y cais, nid oedd y Cynghorwyr John Griffith a Kenneth Hughes yn bresennol ar gyfer y drafodaeth na'r bleidlais arno.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y rhoddwyd caniatâd amlinellol yn 2017 ar gyfer 153 o anheddau, gwesty a chyfleuster bwyd a diod, ynghyd â pharcio a gwaith cysylltiedig, a chaniatâd llawn ar gyfer canolfan beirianneg newydd, maes parcio, a man chwarae i blant a gwaith cysylltiedig fel rhan o gais hybrid. Dynodwyd y rhan honno o'r safle y rhoddwyd caniatâd amlinellol iddi fel Safle B ac roedd yn cynnwys pum plot  ar wahân fel rhan o'r uwchgynllun. Mae'r ganolfan beirianneg newydd wedi'i chwblhau ers hynny ac mae dau gais materion a gadwyd yn ôl sy'n ymwneud ag elfen breswyl y caniatâd amlinellol wedi'u cyflwyno ac yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. Mae geiriad yr amodau sydd ynghlwm wrth y caniatâd gwreiddiol yn cyplysu'r holl blotiau ar Safle B a thrwy hynny'n cyfyngu ar y gallu symud ymlaen i wneud gwaith ar rai plotiau cyn gwneud gwaith ar blotiau eraill neu I wneud gwaith ar y plotiau ar wahanol adegau.  Ers rhoi'r caniatâd mae gan y plotiau bellach wahanol berchnogion ac mae datblygwyr eisiau dechrau gweithio ar wahanol adegau. Mae'r cais yn ceisio newid geiriad rhai o'r amodau ar y caniatâd amlinellol er mwyn iddynt fod yn berthnasol i blotiau penodol ac I ganiatáu i waith symud ymlaen ar rai plotiau ar adegau gwahanol i waith ar blotiau eraill. Nid yw'r diwygiadau yn golygu unrhyw newidiadau i sylwedd yr amodau nac i'r manylion y mae'n ofynnol eu cyflwyno ac felly fe'u hystyrir yn welliannau ansylweddol.

 

Amlygodd y Swyddog y cynigir mân newid pellach i eiriad amod (37) sef disodli'r cyfeiriad at “bob plot" a rhoi "plot perthnasolyn ei le.  Gyda'r newid ychwanegol hwn, yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12