Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 07/06/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 958 KB

11.1  HHP/2023/53 – 48 Cae Braenar, Caergybi

 

HHP/2023/53

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

11.1 HHP/2023/53 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn 48 Cae Braenar, Caergybi

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

11.1 HHP/2023/53 – Cais llawn i addasu ac ehangu yn 48 Cae Braenar, Caergybi

 

Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i un o weithwyr Gwasanaeth Cynllunio’r Cyngor. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod y cais wedi’i graffu gan y Swyddog Monitro, fel oedd yn ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.

Adroddodd y Rheolwr - Rheoli Datblygu fod y cais yn cynnig codi estyniad ports unllawr dan y strwythur to bach presennol i greu ports mynediad newydd. Ystyriwyd bod yr estyniad arfaethedig ar raddfa fach ac er bod deiliaid yr eiddo cyfagos wedi gwrthwynebu oherwydd colli golau'r haul, ni ystyrid bod yr effaith yn cyfiawnhau gwrthod y cais. Roedd nifer o dai ar y stad wedi creu ports tebyg dan eu strwythurau to presennol. Roedd y bwriad yn cydymffurfio â pholisïau perthnasol y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac argymhellwyd caniatáu'r cais.

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans ganiatáu’r cais, yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Geraint Bebb.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.