Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring - Quarter 3, 2023/24

Cyfarfod: 29/02/2024 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 3)

3 Monitro'r Gyllideb Refeniw - Chwarter 3, 2023/24 pdf eicon PDF 356 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.       

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

·     Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ddisgwylir ar gyfer 2023/24;

·       Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2023/24, y manylir arnynt yn Atodiad C;

·     Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2023/24 yn Atodiadau CH a D.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol cyllideb refeniw'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 3, blwyddyn ariannol 2023/2024 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid fod y Cyngor, ar 9 Mawrth 2023, wedi gosod cyllideb net ar gyfer 2023/2024 gyda gwariant net y gwasanaethau o £174.569m, i'w ariannu o incwm y Dreth Gyngor, Trethi Annomestig a grantiau cyffredinol, yn ogystal â £3.780m o gronfeydd wrth gefn cyffredinol.  Y sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir ar gyfer 2023/2024, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa’r Dreth Gyngor, yw tanwariant o £0.842m.  Mae hyn yn 0.49% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2023/2024.  Cyfeiriodd at baragraff 2.2 – Tabl 1 yn yr adroddiad, sy'n crynhoi'r amrywiadau sylweddol o ran gorwario/tanwario o fewn gwasanaethau'r Cyngor. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y sefyllfa ariannol yn Chwarter 3 wedi gwella ers Chwarter 2.  Nododd fod asesu cleientiaid o fewn Gwasanaethau Oedolion wedi gwella, a bod mwy o incwm wedi'i gynhyrchu na’r hyn a ragwelwyd yn Chwarter 2.  Gofynnwyd hefyd i bob gwasanaeth adolygu eu gwariant ac arafu gwariant lle bynnag y bo modd, a llwyddwyd i wneud hyn, gyda mwyafrif y gwasanaethau yn dangos sefyllfa ariannol well ar ddiwedd chwarter 3.  Fodd bynnag, tynnodd sylw at y ffaith bod swyddi gwag o fewn yr Awdurdod ac nad yw'r gwasanaethau'n gallu parhau i ofyn i staff wneud gwaith swyddi nad ydynt wedi'u llenwi.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ymhellach y gall y lefelau incwm ychwanegol a welwyd yn ystod y trydydd chwarter amrywio hefyd ac efallai na fydd yn cael ei ailadrodd yn 2024/2025.  Mae grantiau untro ychwanegol a dderbyniwyd hefyd wedi lleddfu'r sefyllfa, ond pwysleisiodd nad oes modd ystyried grantiau o'r fath yng nghyllideb 2024/2025.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ddisgwylir ar gyfer 2023/2024;

·           Nodi’r crynodeb o gyllidebau Wrth Gefn ar gyfer 2023/24, y manylir arnynt yn Atodiad C;

·           Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2023/24 yn Atodiadau CH a D.