Mater - cyfarfodydd

Capital Budget Monitoring - Quarter 3, 2023/24

Cyfarfod: 29/02/2024 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 4)

4 Monitro'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 3, 2023/24 pdf eicon PDF 363 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

·       Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/24 yn chwarter 3.

·       Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol gwerth £9.396m a ychwanegwyd i’r rhaglen gyfalaf a’r cyllid diwygiedig, yn unol ag Atodiad C, a fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £62.095m ar gyfer 2023/24.

·     Bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu’n ffurfiol at Lywodraeth Cymru er mwyn mynegi siom bod disgwyl iddynt ad-dalu dau grant Anghenion Dysgu Ychwanegol gan na chyflawnwyd y gwaith yn unol â’r telerau a’r amodau oherwydd yr angen i flaenoriaethu materion RAAC yn Ysgol Uwchradd Caergybi a chapasiti’r tîm ADY.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y Gyllideb Gyfalaf ar ddiwedd Chwarter 3 blwyddyn ariannol 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid fod y Cyngor wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud â thai o £24.405m ar gyfer 2023/2024, a rhaglen gyfalaf o £13.557m ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai (CRT).  Yn ogystal â hyn, ym mis Mehefin 2023, cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith i lithriad cyfalaf o £13.477m gael ei ddwyn ymlaen o 2022/2023, a daw hyn â chyfanswm y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud â thai i £ £33.532m, a £17.907m ar gyfer y CRT.  Ers cwblhau’r broses o osod y gyllideb, ychwanegwyd cynlluniau at y rhaglen, y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu cyllido gan grantiau, yn ogystal ag addasu cyllid, a daw hyn i gyfanswm o £9.396m. Mae’r Pwyllgor Gwaith hefyd wedi cymeradwyo swm ychwanegol o £1.26m ar gyfer cynllun o dan y CRT. Daw hyn â chyfanswm y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/24 i £62.095m. Dangosir hyn yn Nhabl 1.2 yr adroddiad.  Y gyllideb a broffiliwyd ar ddiwedd Chwarter 3 oedd £31.115m tra bod y gwariant gwirioneddol yn £30.790m.  Nododd y bydd unrhyw gynlluniau a ragwelwyd sydd wedi llithro o'r flwyddyn hon yn cael eu trosglwyddo i'r flwyddyn ariannol nesaf.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod disgwyl i ddau brosiect a ariennir gan grant Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag Anghenion Dysgu Ychwanegol gael eu had-dalu oherwydd nad oedd gwaith yn gallu cael ei wneud yn unol â thelerau ac amodau'r grant oherwydd yr angen i flaenoriaethu materion RAAC yn Ysgol Uwchradd Caergybi a chapasiti'r tîm Eiddo.  Nododd fod trafodaethau wedi'u cynnal gyda Llywodraeth Cymru i ganiatáu iddynt drosglwyddo'r ddau brosiect ariannu grant i'r flwyddyn ariannol nesaf ond ni ddaethpwyd i gytundeb hyd yma.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ymhellach y rhagwelir y bydd tanwariant o £9.2m ond mae £5.8m yn ddyledus i'r prosiectau Ffyniant Bro yng Nghaergybi sydd wedi llithro i'r flwyddyn ariannol nesaf. 

 

Mynegodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith siom fod disgwyl i'r ddau grant gan Lywodraeth Cymru tuag at Anghenion Dysgu Ychwanegol gael eu had-dalu oherwydd bod yr Awdurdod hwn wedi gorfod delio â materion RAAC mewn ysgolion.  Dywedodd yr Arweinydd y byddai'n ysgrifennu'n ffurfiol at Lywodraeth Cymru ar ran Aelod Portffolio Cyllid ac Aelod Portffolio Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i fynegi eu siom bod disgwyl i'r grant gael ei ad-dalu a gofyn am estyniad i ddyddiad cau amodau'r grant.

 

PENDERFYNWYD:-

·                Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/24 yn Chwarter 3;

·                Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol gwerth £9.396m a ychwanegwyd i’r rhaglen gyfalaf a’r cyllid diwygiedig, yn unol ag Atodiad C, a fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £62.095m ar gyfer 2023/2024;

·                Bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu’n ffurfiol at Lywodraeth Cymru i wneud cais am estyniad i ddyddiad cau amodau’r grant.