Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 07/02/2024 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 3 MB

 12.1 – FPL/2023/348 - Ysgol Syr Thomas Jones, Ffordd Tanybryn, Amlwch

FPL/2023/349

 

12.2 – FPL/2023/343 - Parc Carafanau Golden Sunset, Benllech

FPL/2023/343

 

12.3 – FPL/2023/176 – Swyddfa Bost, Ffordd Caergybi, Gwalchmai

FPL/2023/176

 

12.4 – VAR/2023/67 – Lon Garreglwyd, Caergybi.

VAR/2023/67

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1  FPL/2023/349 – Cais llawn ar gyfer canopi annibynnol gyda tho drosodd ynghyd â lloches beic yn Ysgol Syr Thomas Jones, Ffordd Tanybryn, Amlwch.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.2  FPL/2023/343 – Cais ôl-weithredol ar gyfer yr estyniad i'r decin presennol ym Mharc Carafanau Golden Sunset, Benllech

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.3  FPL/2023/176 – Cais llawn i ddymchwel 2 adeilad allanol ynghyd â chodi 2 annedd fforddiadwy , 4 annedd marchnad agored ynghyd â chreu mynedfa gerbydau ar dir tu ôl i’r Swyddfa Post, Ffordd Caergybi, Gwalchmai.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

12.4  VAR/2023/67 – Cais o dan Adran 73 ar gyfer amrywio amod (02) (i ganiatáu mân ddiwygiadau i gynllun, dyluniad a chynnydd yn uchder yr unedau cymeradwy) cyfeirnod caniatâd cynllunio FPL/2021/266 (Cais llawn ar gyfer codi 8 fflat preswyl fforddiadwy, adeiladu mynedfa gerbydau newydd, adeiladu ffordd newydd ar y safle ynghyd â thirlunio meddal a chaled) er mwyn caniatáu mân ddiwygiadau i gynllun, dyluniad a chynnydd yn uchder yr unedau cymeradwy ar dir yn Lôn Garreglwyd, Caergybi.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

Cofnodion:

12.1  FPL/2023/349 – Cais llawn ar gyfer canopi annibynnol gyda tho uwchben ynghyd â lloches beiciau yn Ysgol Syr Thomas Jones, Ffordd Tanybryn, Amlwch

 

Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir yn eiddo i'r Cyngor Sir.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei wneud ar gyfer canopi annibynnol gyda tho uwchben ynghyd â lloches beiciau.  Fel y nodwyd yn y cyfarfod diwethaf mae Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch yn Adeilad Rhestredig Gradd 11* a'r brif ystyriaeth yw effaith y cais ar yr adeilad hanesyddol hwn. Bydd y canopi annibynnol yn mesur 3.3 metr x 15 metr a 38 metr o uchder a bydd y lloches beiciau yn mesur 4.1 metr x 2.3 metr a bydd yn cael ei osod o dan y cysgod.  Ymgynghorwyd â Swyddog Treftadaeth y Cyngor Sir ac ystyrir na fydd y cais yn cael effaith negyddol ar yr adeilad hanesyddol. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Liz Wood y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd Jeff Evans y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad. 

 

12.2  FPL/2023/343 – Cais ôl-weithredol ar gyfer yr estyniad i'r decin presennol ym Mharc Carafannau Golden Sunset, Benllech

 

Cafodd y cais ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Ms Carol Price, wrth annerch y Pwyllgor, fel gwrthwynebydd i'r cais, fod y gwrthwynebiad tuag ato ar sail ei fod yn gwaethygu iechyd a diogelwch, ynghyd â diffyg unrhyw lywodraethu (asesiad risg, dyletswydd mewn perthynas â diogelwch y cyhoedd ar Barc Gwyliau Golden Sunset neu gerllaw iddo ac unrhyw esgeulustod gweladwy fel trwyddedai cyfrifol Deddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960) i gyngor offerynnau statudol o ran dwysedd agos a lle rhwng carafanau cyfagos eraill a allai gyfrannu tuag at dân yn lledaenu rhwng unedau gan achosi risg tân annerbyniol i'r preswylwyr; yn ychwanegol at hyn mae'r garafán sefydlog yn ymestyn dros ffin yr eiddo a'r tu mewn i'r ffin ar y cyd, felly, nid oes unrhyw fwlch rhwng y garafán hon a’r ffin fel y cynghorir yn Neddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960.  Lleolir y garafán ar y ffin ag eiddo cyfagos ger y maes carafanau ac mae'n amlwg yn mynd yn groes i unrhyw bellter diogelwch 3 metr o ymyl y ffin gan achosi risg tân annerbyniol ychwanegol i'r preswylwyr.

 

Dywedodd Mr Stan Johnson, wrth y Pwyllgor, fel yr ymgeisydd, iddo ef a'i wraig  brynu’r garafán ym mis Chwefror 2021 ar gyfer defnydd penodol ein teulu estynedig.  Dywedodd ei fod yn edifar bod gwaith ar yr estyniad decin wedi dechrau cyn gofyn am ganiatâd cynllunio, gan nad oedd yn ymwybodol bod caniatâd cynllunio wedi'i roi yn 2016 ar gyfer y decin gwreiddiol ac, felly, byddai angen caniatâd newydd yn ar gyfer y decin hwn, fodd bynnag, cafwyd caniatâd gan berchennog y safle cyn dechrau unrhyw waith. Mae'r estyniad  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12