6 Ceisiadau Fydd yn cael eu Gohirio PDF 1 MB
6.1 30C713 – Bryn Mair, Llanbedrgoch
6.2 34C553A – Ty’n Coed, Llangefni
6.3 39C285D – Lôn Gamfa, Porthaethwy
6.4 44C294B – Plas Newydd, Rhosybol
Penderfyniad:
6.1 30C713 - Codi un twrbin wynt 10KW gydag uchder hwb hyd at uchafswm o 15.5m, diamedr rotor hyd at uchafswm o 7.5m a uchder blaen unionsyth vertigol hyd at uchafswm o 19.25m ar dir ger Bryn mair, Llanbedrgoch
Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
6.2 34C553A – Cais amlienllol am ddatblygiad preswyl yn cynnwys cyflesuter gofal ychwanegol, priffyrdd a seilwaith cysylltiol yn Ty’n Coed, Llangefni.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd.
6.3 39C285D – Cais llawn ar gyfer codi 17 o dai ar dir yn Lon Gamfa, Porthaethwy
Penderfynwyd ailymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
6.4 44C294B – Cais llawn i godi dau twrbin gwynt 20kw gyda uchder hwb hyd at 20.5m, diamedr rotor hyd at 13.1m ac uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 27.1m ar dir yn Plas Newydd, Rhosybol.
Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Cofnodion:
6.1 30C713 - Codi un tyrbin gwynt 10KW gydag uchder hwb hyd at uchafswm o 15.5m, diamedr rotor hyd at uchafswm o 7.5m ac uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 19.25m ar dir ger Bryn Mair, Llanbedr-goch
Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am y cais gan y penderfynwyd na fyddid yn defnyddio pwerau dirprwyedig yng nghyswllt datblygu tyrbinau gwynt. Argymhelliad y swyddog oedd ymweld â’r safle.
Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
6.2 35C553A -Cais amlinellol am ddatblygiad preswyl yn cynnwys cyfleuster gofal ychwanegol, priffyrdd a seilwaith cysylltiol yn ‘Ty’n Coed’, Llangefni.
Roedd y cais yn un oedd yn tynnu’n groes ac yn un yr oedd y swyddogion o blaid ei ganiatáu.
Rhoes y Rheolwr Datblygu Cynllunio wybod i’r Pwyllgor bod y swyddog yn argymell gohirio’r cais fel bod modd ymgynghori ymhellach ynghylch ffigurau cyflenwadau tai a chael cyfraniad yr adran addysg.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
6.3 39C285D – Cais llawn ar gyfer codi 17 o dai ar dir yn Lôn Gamfa, Porthaethwy
Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ymwelwyd â’r safle ar 19 Rhagfyr a bod gwaith ystyried y cais wedi ei ohirio am wahanol resymau yng nghyfarfodydd dilynol o’r Pwyllgor tan y penderfynwyd, yn y pen draw, i dynnu’r cais oddi ar y rhestr hyd oni cheid argymhelliad. Oherwydd bod aelodau newydd ar y pwyllgor yn sgil yr etholiadau lleol ym mis Mai, ni fuasai digon o aelodau newydd o’r Pwyllgor Cynllunio wedi ymweld â’r safle i fedru gwneud penderfyniad.
Penderfynwyd ailymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
6.4 44C294B – Cais llawn i godi dau dyrbin gwynt 20kw gydag uchder hwb hyd at 20.5m, diamedr rotor hyd at 13.1m ac uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 27.1m ar dir yn ‘Plas Newydd’, Rhos-y-bol.
Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am y cais gan y penderfynwyd na fyddid yn defnyddio pwerau dirprwyedig yng nghyswllt datblygu tyrbinau gwynt. Argymhelliad y swyddog oedd ymweld â’r safle.
Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog.