Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 02/10/2013 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 351 KB

11.1 16C119B – Pen yr Orsedd, Engedi

Penderfyniad:

 

11.1  16C119B – Cais llawn ar gyfer codi adeilad ar gyfer darparu gweithdy a swyddfa yn Pen yr Orsedd, Engedi

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog ar y sail ei fod yn diogelu ac yn cadw gwaith yn yr ardal ac ym Môn.

 

Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad, bydd y cais yn cael ei ohirio yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn caniatáu i swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.

 

Cofnodion:

11.1 16C119B - Cais llawn ar gyfer codi adeilad ar gyfer darparu gweithdy a swyddfa yn ‘Pen yr Orsedd’, Engedi

 

  Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol ac     oherwydd bod yr ymgeisid yn perthyn i Gynghorydd.

    Anerchodd y Cynghorydd R G Parry OBE y Pwyllgor fel Aelod Lleol gan ddweud nad oedd modd gweld safle’r cais o’r A55 gan ei fod mewn dyffryn.  Cais oedd hwn am weithdy bychan i gadw tŵls, garej  a manion eraill y cartref - nid oedd cyfleuster storio ym Mhen yr Orsedd ar hyn o bryd.  Dyn ifanc oedd yr ymgeisydd ac roedd hefyd yn Saer ac yn grefftwr ac yn gweithio ar hyn o bryd o garej ei hen gartref.  Roedd yn arbenigo mewn gwaith coed.  Bwriad ei dad oedd dymchwel y garej gan olygu na fuasai gan yr ymgeisydd, o’r herwydd,  unrhyw le i gadw ei dŵls gwaith.  At hyn, buasai’r gweithdy yn ei gwneud yn bosib i’r ymgeisydd gadw ei fan dan do.  Dywedodd y Cynghorydd Parry nad oedd o’r farn bod yr adeilad arfaethedig yn fawr (oddeutu 10m wrth 10m wrth 4m) a phe bai’r cais wedi bod yn un am garej ddwbl, ni fuasai wedi bod  yn broblem o gwbl.  Roedd yr ymgeisydd wedi bod yn onest ynghylch ei fwriadau ar gyfer yr adeilad.  Nid oedd yr ymgeisydd yn medru fforddio rhentu uned ar stad ddiwydiannol a buasai medru gweithio yn agos i’w gartref o fantais fawr iddo.  Tynnodd y Cynghorydd Parry sylw at y ffaith bod sied ieir fawr yn y cyffiniau a bod cynnig am sied fawr i’r chwith o safle’r cais wedi ei ganiatáu.  At hyn, roedd iard adeiladu a ffarm gydag amrywiaeth o adeiladu nid ymhell o’r safle.  Ni fuasai’r datblygiad arfaethedig yn sefyll allan.  Dywedodd y Cynghorydd Parry ei fod o’r farn y ceid llai o draffig gan na fuasai raid i’r ymgeisydd deithio yn ôl ac ymlaen i’w waith. Nid oedd yr ymgeisydd yn bwriadu defnyddio’r safle at ddibenion gwerthu.  Gofynnodd i’r Pwyllgor gefnogi’r cais gan saer ifanc oedd yn dymuno aros yn ei gymuned i wneud ei waith.

Gofynnodd y Cynghorydd Victor Hughes a fuasai’r sied arfaethedig yng nghefn y tŷ.  Eglurodd y Cynghorydd R G Parry y buasai’r adeilad arfaethedig yn yr ardd ac nid yn sownd yn y tŷ.

Nododd y Cynghorydd Jeff Evans bod y bwriad i’w weld yn adeilad mawr iawn i sied a gofynnodd ai’r bwriad oedd ei ddefnyddio fel sied gwaith coed - os dyma’r achos, buasai’n hapus ei gefnogi fel busnes lleol.  Tynnodd y Cynghorydd Evans sylw at y ffaith bod yr adroddiad, fodd bynnag, yn dweud, bod y wybodaeth a roddwyd yn dangos y buasai’r gweithdy arfaethedig yn cael ei ddefnyddio’n rhannol at ddibenion sy’n gysylltiedig â’r tŷ ac yn rhannol mewn cysylltiad â busnes gwaith coed yr ymgeisydd.  O’r herwydd, gofynnodd ai sied ynteu estyniad i’r tŷ oedd y datblygiad a dywedodd ei fod yn ceisio dychmygu beth oedd y bwriad a beth fuasai  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11