Mater - cyfarfodydd

Materion Eraill

Cyfarfod: 02/10/2013 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 13)

13 Materion Eraill pdf eicon PDF 885 KB

13.1 42C321 – Y Sidings, Pentraeth

 

13.2 47LPA969B/CC – Llwyn yr Arth, Llanbabo

Penderfyniad:

13.1  42C231 – Cais llawn i godi 13 annedd newydd ynghyd â creu mynedfa newydd ar dir yn The Sidings, Pentraeth

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

13.2  47LPA969B/CC – Rhybudd o fwriad i ddymchwel cyn annedd (Bryn Eglwys) yn Llwyn yr Arth, Llanbabo

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.

 

Cofnodion:

13.1 42C231 – Cais llawn i godi tair annedd newydd ar ddeg ynghyd â chreu mynedfa newydd ar dir yn ‘The Sidings’, Pentraeth

 

Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion am y cais hwn gan ei fod yn tynnu’n groes i’r Polisi Cynllunio Lleol ond bod modd ei ganiatáu dan y Cynllun Datblygu Unedol.

Gan fod y Cynghorydd Victor Hughes wedi datgan diddordeb yn y cais hwn, gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.

Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Rheolwr Datblygu Cynllunio eu bod wedi ymweld â’r safle a bod y cyfarfod ar 4 Medi, 2013 wedi penderfynu caniatáu’r cais unwaith y buasai dyddiad cau sylwadau cymdogion wedi dod i ben ac ar yr amod na fuasai materion ychwanegol yn cael eu codi mewn unrhyw ohebiaeth a fuasai’n dod i law.  Yn sgil derbyn mwy o lythyrau, y gred oedd y dylai’r cais gael ei gyflwyno eto fel bod modd cynnwys yr holl bwyntiau a godwyd.  Eglurodd y Swyddog y codwyd un mater newydd yng nghyswllt anghenion tai Pentraeth.  O’r herwydd,  ymgynghorwyd â’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd ynghylch y mater hwn ac roedd yr Uned Bolisi wedi ymateb gyda’r wybodaeth bod arolwg o dai ym Mhentraeth dros y deg mlynedd diwethaf yn dangos bod llawer llai o dai wedi eu codi yn y pentref nag y byddid wedi eu disgwyl ar gyfer pentref o’r maint hwnnw dros gyfnod y Cynllun Datblygu.  Felly, ni fuasai caniatáu’r datblygiad hwn yn arwain at orddatblygu tai yn yr ardal.  O’r herwydd, nid oedd rheswm dros wrthod y cais ar y sail honno.

Rhoes y Cynghorydd Vaughan Hughes wybod i Aelodau ei fod wedi cael cais gan wrthwynebydd i gyflwyno ei bwyntiau gwrthwynebu i’r Pwyllgor a bod y wybodaeth wedi ei gosod yn fanwl ac yn faith.  Gofynnodd i’r Cadeirydd am ganiatâd i gyflwyno’r pwyntiau.

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol mai ofer, o bosib, fyddai cyflwyno dadleuon y gwrthwynebydd oni buasai’r Pwyllgor yn dymuno ailagor y drafodaeth ar rinweddau’r cais hwn.

Cafodd aelodau’r pwyllgor eu hatgoffa gan y Rheolwr Datblygu Cynllunio eu bod wedi ystyried nifer o ffactorau wrth ddod i’w casgliad yn y cyfarfod blaenorol ac nad oed dim wedi newid ers y cyfarfod hwnnw ac eithrio gwybodaeth am nifer y tai a godwyd yn y pentref dros y deg mlynedd diwethaf.  O’r herwydd, buasai’n disgwyl i’r Pwyllgor ddod i’r un casgliad ag y gwnaeth yn y cyfarfod diwethaf, a hynny’n seiliedig ar yr un ystyriaethau.

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

(Ni phleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Kenneth Hughes, Raymond Jones a Richard Owain Jones ar y cais gan na fuont ar yr ymweliad safle).

13.2 47LPA969B/CC – Rhybudd o fwriad i ddymchwel cyn annedd (‘Bryn Eglwys’) yn Llwyn yr Arth, Llanbabo

 

Rhoes y Rheolwr Datblygu Cynllunio wybod i’r Pwyllgor y penderfynwyd nad oedd angen caniatâd yr Awdurdod Cynllunio Lleol i’r datblygiad uchod a’i fod yn ddatblygiad a ganiateir.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13