6 Ceisiadau fydd yn cael eu Gohirio PDF 174 KB
6.1 20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
6.1 20C310B/EIA/RE Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer ac isadeiledd cysylltiedig a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch
PENDERFYNWYD GOHIRIO YSTYRIED Y CAIS YN UNOL AG ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG
Cofnodion:
6.120C310B/EIA/RE Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer ac isadeiledd cysylltiedig a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch
Yn dilyn datgan diddordeb personol a diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorwyr W.T.Hughes a Richard Owain Jones y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar y mater.
Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod canllawiau cenedlaethol yn cynghori y dylid osgoi adrodd ar, ystyried a phenderfynu ar faterion cynhennus yn ystod y cyfnod cyn etholiad. Gan i’r cyfnod cyn-etholiad gychwyn ar 21 Mawrth, 2017 cyn yr etholiadau llywodraeth leol ac oherwydd y gellir ystyried y cais hwn fel un cynhennus ac anarferol, argymhellwyd y dylid gohirio rhoi unrhyw ystyriaeth bellach i’r cais hwn tan ar ôl yr etholiad.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.