Mater - cyfarfodydd

Ceisiadau fydd yn cael eu Gohirio

Cyfarfod: 26/04/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 6)

6 Ceisiadau fydd yn cael eu Gohirio pdf eicon PDF 174 KB

6.1  20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

6.1       20C310B/EIA/RE Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer ac isadeiledd cysylltiedig a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

PENDERFYNWYD GOHIRIO YSTYRIED Y CAIS YN UNOL AG ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG

Cofnodion:

6.120C310B/EIA/RE Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer ac isadeiledd cysylltiedig a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

Yn dilyn datgan diddordeb personol a diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorwyr W.T.Hughes a Richard Owain Jones y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar y mater.  

 

Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod canllawiau cenedlaethol yn cynghori y dylid osgoi adrodd ar, ystyried a phenderfynu ar faterion cynhennus yn ystod y cyfnod cyn etholiad. Gan i’r cyfnod cyn-etholiad gychwyn ar 21 Mawrth, 2017 cyn yr etholiadau llywodraeth leol ac oherwydd y gellir ystyried y cais hwn fel un cynhennus ac anarferol, argymhellwyd y dylid gohirio rhoi unrhyw ystyriaeth bellach i’r cais hwn tan ar ôl yr etholiad.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.