Mater - cyfarfodydd

Ceisiadau yn Codi

Cyfarfod: 26/04/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 1 MB

7.1  12C49P/DEL – Casita, Biwmares

7.2  15C30H/FR – Pen y Bont Farm, Malltraeth

7.3  18C225B – Bron Castell, Llanfairynghornwy

7.4  33C190Q/VAR – Chwarel Bwlch Gwyn, Gaerwen

7.5  34C304K/1/EIA/ECON – Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni

7.6  47C153 – Plas Newydd, Llanddeusant

7.7  47C154 – Plas Newydd, Llanddeusant

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1       12C49P/DEL - Cais o dan Adran 73 i dynnu amod (09) (cyfyngu oedran y preswylydd) o ganiatâd cynllunio rhif 12C49M/VAR (codi 35 o fflatiau preswyl) yn Casita, Biwmares.

 

PENDERFYNWYD  CADARNHAU PENDERFYNIAD BLAENOROL Y PWYLLGOR I WRTHOD Y CAIS YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG

 

7.2       15C30H/FR - Cais llawn i newid defnydd tir

amaethyddol er mwyn ymestyn y maes carafanau presennol i leoli 14 o garafanau symudol ychwanegol ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Pen y Bont Farm, Touring and Camping, Malltraeth.

 

PENDERFYNWYD GWRTHOD Y CAIS YN UNOL AG ARGYMHELLIAD AC ADRODDIAD Y SWYDDOG

 

(Cais wedi’i alw i mewn ar gyfer ei benderfynu gan Weinidogion Cymru) 

 

7.3       18C225B - Cais llawn i godi annedd, creu

mynedfa ynghyd â gosod paced trin carthffosiaeth ar dir ger Bron Castell, Llanfairynghornwy.

 

PENDERFYNWYD  CADARNHAU PENDERFYNIAD BLAENOROL Y PWYLLGOR I GYMERADWYO’R CAIS YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG

 

7.4       33C190Q/VAR Cais o dan Adran 73 i

ddiwygio amod (03) o ganiatâd cynllunio cyf 33C190 (Adolygiad o amodau cynllunio yn unol á Deddf yr Amgylchedd 1995) er mwyn cael defnyddio y fynedfa wreiddiol i gerbydau i'r safle yn Chwarel Bwlch Gwyn, Gaerwen.

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R CAIS YN UNOL AG ARGYMHELLIAD AC ADRODDIAD Y SWYDDOG

 

 

7.5       34C304K/1/EIA/ECON - Cais hybrid am

ganiatâd cynllunio llawn i greu canolfan beirianneg newydd, maes parcio, lle chwarae i blant a gwaith cysylltiedig a chais am ganiatâd cynllunio amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer datblygiad preswyl o 153 o anheddau, gwesty a chyfleuster bwyd a diod ynghyd a lle parcio cysylltiedig a gwaith ar dir yn Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Langefni.

 

PENDERFYNWYD GOHIRIO YSTYRIED Y CAIS

 

7.6 47C153 Cais amlinellol ar gyfer codi annedd sydd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa ynghyd â chreu estyniad i'r fynwent bresennol ar dir gyferbyn â Plas Newydd, Llanddeusant.

 

PENDERFYNWYD  CADARNHAU PENDERFYNIAD BLAENOROL Y PWYLLGOR I GYMERADWYO’R CAIS  YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG

 

7.7 47C154 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd sydd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa newydd ar dir gyferbyn â Plas Newydd, Llanddeusant.

 

PENDERFYNWYD  CADARNHAU PENDERFYNIAD BLAENOROL Y PWYLLGOR I GYMERADWYO’R CAIS YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG

 

Cofnodion:

7.1       12C49P/DEL - Cais o dan Adran 73 i dynnu amod (09) (cyfyngu oedran y preswylydd) o ganiatâd cynllunio rhif 12C49M/VAR (codi 35 o fflatiau preswyl) yn Casita, Biwmares.

 

Cyflwynwyd y cais yn wreiddiol i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 5 Ebrill, 2017 fe benderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. Mae’r cais yn cael ei ail gyflwyno i’r Pwyllgor yn dilyn y cyfnod statudol o fis ar gyfer “cnoi cil”.   

Nododd yr Arweinydd Tîm Datblygiadau Cynllunio y gwrthodwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor Ebrill 2017 gan na ystyriwyd fod y cynnig yn bodloni anghenion yr ardal leol, a bod angen tai o’r math hwn er mwyn bodloni anghenion pobl hŷn. Roedd adroddiad ysgrifenedig pellach y Swyddog yn cyfeirio at y rhesymau a roddwyd gan y Pwyllgor am wrthod y cais. Yn ychwanegol at hynny, roedd gohebiaeth wedi’i chyflwyno gan asiant yr ymgeisydd yn nodi, ers cwymp y farchnad dai yn 2008, bod prynwyr posibl wedi bod yn amharod i brynu eiddo sydd ag unrhyw fath o gyfyngiadau oherwydd y goblygiadau wrth ail-werthu sydd felly yn codi amheuon am ddichonoldeb y prosiect. Mae’n rhaid i’r amod hefyd fodloni’r prawf yn y ddeddfwriaeth gynllunio o ran ei fod yn angenrheidiol, yn rhywbeth y gellir ei orfodi a’i fod yn fanwl gywir; rhaid gallu dangos bod rhesymau cynllunio dros osod cyfyngiad ar oedran y preswylwyr. Dywedodd y Swyddog, yn dilyn ymgynghori â’r Adran Dai, y cadarnhawyd nad oes unrhyw wir angen yn lleol am dai â chyfyngiad oedran ar gyfer preswylwyr dros 55 oed. 

    

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cynnal ymweliad safle ar y sail nad yw hwn yn ddatblygiad arferol.

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllunio na fyddai ymweliad safle yn debygol o gynorthwyo’r Pwyllgor gan nad yw hwn yn ddatblygiad newydd ond yn gais i gael gwared ar amod penodol ar ganiatâd cynllunio sydd eisoes wedi’i roi ar gyfer codi 35 o fflatiau preswyl. Cefnogodd y Swyddog Cyfreithiol sylwadau’r Swyddog a chynghorodd na fyddai ymweliad safle yn cynorthwyo yn yr achos hwn. O ganlyniad, tynnodd y Cynghorydd Lewis Davies ei gais am ymweliad safle yn ôl. 

 

Cyfeiriodd yr Aelodau hynny a oedd yn erbyn y cais at y ffaith bod nifer sylweddol o bobl dros 55 oed yn byw yn yr ardal ac roeddent yn bryderus, heb y cyfyngiad oedran, y gallai’r safle gael ei ddatblygu mewn ffordd wahanol iawn i’r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol ac na fyddai modd i’r boblogaeth leol fforddio eu prynu. Mae safle’r cais mewn ardal hynod ddeniadol sydd â photensial sylweddol y gallai’r datblygwr efallai geisio manteisio arno. Tynnwyd sylw at y ffaith hefyd fod y farchnad dai wedi gwella er 2008 a bod Ynys Môn yn ardal lle mae prisiau eiddo wedi cynyddu.

  

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllunio fod angen ystyried a oes rhesymau cynllunio dilys dros gadw’r cyfyngiad oedran dros 55 oed. Mae’r safle o fewn ffin anheddiad Biwmares fel y’i nodir yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7