7.1 12C49P/DEL – Casita, Biwmares
7.2 15C30H/FR – Pen y Bont Farm, Malltraeth
7.3 18C225B – Bron Castell, Llanfairynghornwy
7.4 33C190Q/VAR – Chwarel Bwlch Gwyn, Gaerwen
7.5 34C304K/1/EIA/ECON – Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni
7.6 47C153 – Plas Newydd, Llanddeusant
7.7 47C154 – Plas Newydd, Llanddeusant
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
7.1 12C49P/DEL - Cais o dan Adran 73 i dynnu amod (09) (cyfyngu oedran y preswylydd) o ganiatâd cynllunio rhif 12C49M/VAR (codi 35 o fflatiau preswyl) yn Casita, Biwmares.
PENDERFYNWYD CADARNHAU PENDERFYNIAD BLAENOROL Y PWYLLGOR I WRTHOD Y CAIS YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG
7.2 15C30H/FR - Cais llawn i newid defnydd tir
amaethyddol er mwyn ymestyn y maes carafanau presennol i leoli 14 o garafanau symudol ychwanegol ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Pen y Bont Farm, Touring and Camping, Malltraeth.
PENDERFYNWYD GWRTHOD Y CAIS YN UNOL AG ARGYMHELLIAD AC ADRODDIAD Y SWYDDOG
(Cais wedi’i alw i mewn ar gyfer ei benderfynu gan Weinidogion Cymru)
7.3 18C225B - Cais llawn i godi annedd, creu
mynedfa ynghyd â gosod paced trin carthffosiaeth ar dir ger Bron Castell, Llanfairynghornwy.
PENDERFYNWYD CADARNHAU PENDERFYNIAD BLAENOROL Y PWYLLGOR I GYMERADWYO’R CAIS YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG
7.4 33C190Q/VAR Cais o dan Adran 73 i
ddiwygio amod (03) o ganiatâd cynllunio cyf 33C190 (Adolygiad o amodau cynllunio yn unol á Deddf yr Amgylchedd 1995) er mwyn cael defnyddio y fynedfa wreiddiol i gerbydau i'r safle yn Chwarel Bwlch Gwyn, Gaerwen.
PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R CAIS YN UNOL AG ARGYMHELLIAD AC ADRODDIAD Y SWYDDOG
7.5 34C304K/1/EIA/ECON - Cais hybrid am
ganiatâd cynllunio llawn i greu canolfan beirianneg newydd, maes parcio, lle chwarae i blant a gwaith cysylltiedig a chais am ganiatâd cynllunio amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer datblygiad preswyl o 153 o anheddau, gwesty a chyfleuster bwyd a diod ynghyd a lle parcio cysylltiedig a gwaith ar dir yn Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Langefni.
PENDERFYNWYD GOHIRIO YSTYRIED Y CAIS
7.6 47C153 Cais amlinellol ar gyfer codi annedd sydd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa ynghyd â chreu estyniad i'r fynwent bresennol ar dir gyferbyn â Plas Newydd, Llanddeusant.
PENDERFYNWYD CADARNHAU PENDERFYNIAD BLAENOROL Y PWYLLGOR I GYMERADWYO’R CAIS YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG
7.7 47C154 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd sydd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa newydd ar dir gyferbyn â Plas Newydd, Llanddeusant.
PENDERFYNWYD CADARNHAU PENDERFYNIAD BLAENOROL Y PWYLLGOR I GYMERADWYO’R CAIS YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG
Cofnodion:
7.1 12C49P/DEL - Cais o dan Adran 73 i dynnu amod (09) (cyfyngu oedran y preswylydd) o ganiatâd cynllunio rhif 12C49M/VAR (codi 35 o fflatiau preswyl) yn Casita, Biwmares.
Cyflwynwyd y cais yn wreiddiol i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 5 Ebrill, 2017 fe benderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. Mae’r cais yn cael ei ail gyflwyno i’r Pwyllgor yn dilyn y cyfnod statudol o fis ar gyfer “cnoi cil”.
Nododd yr Arweinydd Tîm Datblygiadau Cynllunio y gwrthodwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor Ebrill 2017 gan na ystyriwyd fod y cynnig yn bodloni anghenion yr ardal leol, a bod angen tai o’r math hwn er mwyn bodloni anghenion pobl hŷn. Roedd adroddiad ysgrifenedig pellach y Swyddog yn cyfeirio at y rhesymau a roddwyd gan y Pwyllgor am wrthod y cais. Yn ychwanegol at hynny, roedd gohebiaeth wedi’i chyflwyno gan asiant yr ymgeisydd yn nodi, ers cwymp y farchnad dai yn 2008, bod prynwyr posibl wedi bod yn amharod i brynu eiddo sydd ag unrhyw fath o gyfyngiadau oherwydd y goblygiadau wrth ail-werthu sydd felly yn codi amheuon am ddichonoldeb y prosiect. Mae’n rhaid i’r amod hefyd fodloni’r prawf yn y ddeddfwriaeth gynllunio o ran ei fod yn angenrheidiol, yn rhywbeth y gellir ei orfodi a’i fod yn fanwl gywir; rhaid gallu dangos bod rhesymau cynllunio dros osod cyfyngiad ar oedran y preswylwyr. Dywedodd y Swyddog, yn dilyn ymgynghori â’r Adran Dai, y cadarnhawyd nad oes unrhyw wir angen yn lleol am dai â chyfyngiad oedran ar gyfer preswylwyr dros 55 oed.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cynnal ymweliad safle ar y sail nad yw hwn yn ddatblygiad arferol.
Dywedodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllunio na fyddai ymweliad safle yn debygol o gynorthwyo’r Pwyllgor gan nad yw hwn yn ddatblygiad newydd ond yn gais i gael gwared ar amod penodol ar ganiatâd cynllunio sydd eisoes wedi’i roi ar gyfer codi 35 o fflatiau preswyl. Cefnogodd y Swyddog Cyfreithiol sylwadau’r Swyddog a chynghorodd na fyddai ymweliad safle yn cynorthwyo yn yr achos hwn. O ganlyniad, tynnodd y Cynghorydd Lewis Davies ei gais am ymweliad safle yn ôl.
Cyfeiriodd yr Aelodau hynny a oedd yn erbyn y cais at y ffaith bod nifer sylweddol o bobl dros 55 oed yn byw yn yr ardal ac roeddent yn bryderus, heb y cyfyngiad oedran, y gallai’r safle gael ei ddatblygu mewn ffordd wahanol iawn i’r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol ac na fyddai modd i’r boblogaeth leol fforddio eu prynu. Mae safle’r cais mewn ardal hynod ddeniadol sydd â photensial sylweddol y gallai’r datblygwr efallai geisio manteisio arno. Tynnwyd sylw at y ffaith hefyd fod y farchnad dai wedi gwella er 2008 a bod Ynys Môn yn ardal lle mae prisiau eiddo wedi cynyddu.
Dywedodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllunio fod angen ystyried a oes rhesymau cynllunio dilys dros gadw’r cyfyngiad oedran dros 55 oed. Mae’r safle o fewn ffin anheddiad Biwmares fel y’i nodir yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7