8 Ceisiadau Economaidd PDF 285 KB
8.1 34C705/ECON – Ysgol y Graig, Llangefni
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
8.1 34C705/ECON - Cais llawn i ddymchwel yr
ysgol bresennol, codi archfarchnad newydd, gwelliannau i'r fynedfa bresennol ynghyd â gwaith cysylltiedig ar hen safle Ysgol y Graig, Llangefni.
PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R CAIS YN UNOL AG ARGYMHELLIAD AC ADRODDIAD Y SWYDDOG
Cofnodion:
8.1 34C705/ECON - Cais llawn i ddymchwel yr ysgol bresennol, codi archfarchnad newydd, gwelliannau i'r fynedfa bresennol ynghyd â gwaith cysylltiedig ar hen safle Ysgol y Graig, Llangefni.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y datblygiad yn un sy’n cynnwys tir sy’n berchen i’r Cyngor.
Adroddodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllunio bod y cais wedi bod yn destun y broses gyhoeddusrwydd newydd cyn cyflwyno cais cynllunio lle mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal cyn i’r cais gael ei gyflwyno i’r Gwasanaeth Cynllunio; mae tri llythyr o gefnogaeth ac un llythyr o wrthwynebiad wedi dod i law. Mae’r uned newydd arfaethedig yn llawer mwy o ran maint na’r uned adwerthu bresennol; mae’r ymgeisydd wedi ymgymryd â phrawf dilyniannol yn ôl yr angen o ran polisi cynllunio a Pholisi Cynllunio Cymru sydd wedi cynnwys ystyried yr opsiwn o ddymchwel yr hen siop ac ailddatblygu’r safle. Fodd bynnag, oherwydd cyfyngiadau’r safle presennol o ran ei gapasiti i ddarparu siop fwy a’r ffaith nad yw safleoedd eraill yn addas o ran y meini prawf angenrheidiol ar gyfer model busnes yr ymgeisydd, mae safle’r cais yn cael ei ffafrio ar gyfer y siop newydd. Dywedodd y Swyddog bod yr adroddiad hefyd yn dangos, o ran capasiti, na fyddai’r cais yn achosi unrhyw niwed i brysurdeb na hyfywedd y siopau presennol yng nghanol y dref.
Roedd y Pwyllgor yn ffafrio’r cynnig yn amodol ar gadarnhau y cedwir y llwybr troed presennol a’r fynedfa iddo o Stad Tan Capel drwy’r ddau gae yn y cefn a hen safle’r ysgol i lawr i’r stad ddiwydiannol; bod yr oriau gwaith yn cael eu rheoleiddio er mwyn atal niwsans sŵn gan fod cwynion wedi eu derbyn yn lleol am y gwaith ar yr adnodd gofal ychwanegol cyfagos, ac yn amodol ar gadarnhad bod unrhyw lwyni a choed sy’n cael eu plannu yn cael eu cynnal am gyfnod o 10 mlynedd yn hytrach na 5 mlynedd. Dywedodd y Swyddog y gellir edrych ar statws y llwybr; y bydd cynllun rheoli’r amgylchedd yn cael ei weithredu er mwyn delio â thraffig, sŵn a llygredd ac ati gydag amod na fydd gwaith yn dechrau ar y safle cyn 8:00am. O ran cynnal a chadw’r llwyni a'r coed a blennir fel rhan o’r cynllun tirlunio, dywedodd y Swyddog mai’r cyfnod cynnal a chadw a awgrymwyd gan y Swyddog Coed a Thirlunio yw 5 mlynedd; fodd bynnag, gellir rhoi ystyriaeth i ymestyn y cyfnod hwnnw.
Nododd y Pwyllgor ei siom nad oedd unrhyw fuddion cymdeithasol yn codi o’r cynllun.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.