Mater - cyfarfodydd

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion

Cyfarfod: 26/04/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 177 KB

11.1  13C194 – Llwyn Llinos, Bodedern

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

11.1 13C194 Cais amlinellol ar gyfer codi tri annedd fforddiadwy sy'n cynnwys manylion mynedfa, edrychiad, gosodiad a graddfa, ar dir gyferbyn â Llwyn Llinos, Bodedern.

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R CAIS YN UNOL AG ARGYMHELLIAD AC ADRODDIAD Y SWYDDOG

 

 

 

Cofnodion:

11.1. 13C194 Cais amlinellol ar gyfer codi tri annedd fforddiadwy sy'n cynnwys manylion mynedfa, edrychiad, gosodiad a graddfa, ar dir gyferbyn â Llwyn Llinos, Bodedern.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol. Mae ffeil y cais a’r adroddiad wedi eu hadolygu gan y Swyddog Monitro yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor.

 

Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais amlinellol gwreiddiol gyda’r holl faterion wedi’u cadw yn ôl ar gyfer datblygu tri thŷ fel safle eithriadol ar gyfer tai fforddiadwy. Mae’r cais diwygiedig yn cynnig tri byngalo ar ran o gae sy’n mewnlenwi rhwng y fynwent bresennol a’r byngalo cyfagos yn Rhoslyn. Cafwyd tri llythyr o wrthwynebiad mewn perthynas â’r cais gwreiddiol a gyflwynwyd; ni chafwyd unrhyw ohebiaeth bellach ers rhoi cyhoeddusrwydd i’r cais o’r newydd yn dilyn derbyn y manylion a ddiwygiwyd. Mae’r Gwasanaeth Tai wedi cadarnhau’r angen am dri byngalo dwy ystafell wely ym Modedern ac mae’r cynllun yn adlewyrchu’r angen hwn o ran dyluniad a fforddiadwyedd. Mae’r Awdurdod Priffyrdd yn awgrymu cymeradwyaeth amodol gan gynnwys gosod pafin ar hyd tu blaen y safle. Ystyrir y cynllun yn dderbyniol yn nhermau polisi ac mae’n cael ei argymell ar gyfer cymeradwyaeth yn amodol ar fanylion draenio a chytundeb Adran 106 er mwyn sicrhau bod yr anheddau yn parhau fel rhai fforddiadwy am eu hoes.  

 

Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad a oedd arolwg traffig wedi’i gynnal gan yr ystyrir bod y rhan hon o’r pentref yn ardal brysur iawn. Cadarnhaodd y Swyddog Priffyrdd, er nad oedd arolwg traffig wedi’i gynnal, bod yr Awdurdod Priffyrdd wedi mynnu ar y safonau uchaf posib mewn perthynas â chyfyngiadau cyflymder a bod y cynnig yn cydymffurfio â nhw. Mae Swyddogion Priffyrdd bellach yn fodlon â’r lefel o welededd ac mae’r fynedfa wreiddiol wedi ei symud er mwyn darparu llain gwelededd o 90 metr i’r ddau gyfeiriad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ar dderbyn manylion draenio boddhaol yn ogystal â chytundeb Adran 106 er mwyn sicrhau bod yr anheddau yn parhau i fod yn rhai fforddiadwy am eu hoes.