Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 26/04/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 895 KB

12.1  12LPA1032/CC – 1-17 Bryn Tirion, Biwmares

12.2  12C479B – Rose Hill, Biwmares

12.3  19C98D – 2 Stryd Stanley, Caergybi

12.4  45C480 – Morannedd, Stryd y Capel, Niwbwrch

12.5  46C254B – Ael y Bryn, Lôn Penrhyngarw, Trearddur

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1 12LPA1032/CC – Cais llawn ar gyfer adnewyddu edrychiad allanol y tai, creu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â chreu ardal barcio o fewn y safle yn 1-17 Bryn Tirion, Biwmares

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R CAIS YN UNOL AG ARGYMHELLIAD AC ADRODDIAD Y SWYDDOG

 

12.2 12C479B – Cais llawn ar gyfer codi annedd yn yr hen safle farchnad garddio ar dir tu ôl i Rose Hill, Biwmares.

 

PENDERFYNWYD YMWELD Â’R SAFLE

 

12.3 19C98D – Cais llawn ar gyfer gosod ffenestr gromen ynghyd ag addasu blaen y siop a chodi polyn 6m o uchder ar gyfer ail-leoli CCTV yn 2 Stryd Stanley, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R CAIS YN UNOL AG ARGYMHELLIAD AC ADRODDIAD Y SWYDDOG

 

12.4 45C480 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi'u cadw'n ôl ar dir tu cefn i  Morannedd, Stryd y Capel, Niwbwrch.

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R CAIS HWN YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG. 

 

(Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais).

 

12.5 46C254B - Cais amlinellol ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi dwy annedd newydd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa yn Ael y Bryn, Lôn Penrhyngarw, Bae Trearddur.

 

CAIS WEDI’I DYNNU’N ÔL 

Cofnodion:

12.1 12LPA1032/CC – Cais llawn ar gyfer adnewyddu edrychiad allanol y tai, creu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â chreu ardal barcio o fewn y safle yn 1-17 Bryn Tirion, Biwmares

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd W.T. Hughes. 

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

12.2 12C479B – Cais llawn ar gyfer codi annedd ar dir safle’r hen farchnad garddio y tu ôl i Rose Hill, Biwmares.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Gofynnodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Alwyn Rowlands, i’r Pwyllgor gynnal ymweliad safle er mwyn i’r Aelodai allu cael gwell dealltwriaeth o’r datblygiad arfaethedig o fewn ei gynefin ac er mwyn gallu asesu unrhyw effaith a allai godi gan fod y safle o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylai’r Pwyllgor ymweld â safle’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

12.3 19C98D – Cais llawn ar gyfer gosod ffenestr gromen ynghyd ag addasu blaen y siop a chodi polyn 6m o uchder ar gyfer ail-leoli CCTV yn 2 Stryd Stanley, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod rhan ohono ar dir sy’n berchen i’r Awdurdod Lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

12.4 45C480 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi'u cadw'n ôl ar dir tu cefn i  Morannedd, Stryd y Capel, Niwbwrch.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd ar gyfer y drafodaeth a’r penderfyniad ar y cais er mwyn siarad fel Aelod Lleol. Cadeiriwyd yr eitem gan yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, er bod yr annedd arfaethedig yn gorwedd o fewn ffin setliad Niwbwrch, mae mynedfa’r safle yn gorwedd y tu allan i’r ffin datblygu. Dywedodd y Swyddog , er bod yr egwyddor o ddatblygiadau preswyl yn dderbyniol o dan bolisïau cynllunio, fe ystyrir, oherwydd y pellteroedd gwahanu perthnasol, y bydd y cais yn cael effaith ar y mwynderau sy’n cael eu mwynhau ar hyn o bryd gan drigolion yr eiddo cyfagos o ran gweld yr eiddo. Mae’r Swyddog yn casglu yn ei adroddiad y byddai’r cynnig yn golygu mewnlenwi ansensitif a fyddai allan o gymeriad gyda’r ardal gyfagos mewn ffordd sy’n groes i bolisi. Yr argymhelliad felly yw un o wrthod y cais.  

 

Dywedodd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12