Mater - cyfarfodydd

Draft Capital Programme 2015/16

Cyfarfod: 15/12/2014 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 6)

6 Rhaglen Gyfalaf Ddrafft 2015/16 pdf eicon PDF 362 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd y dylid cynnwys yr eitemau a oedd wedi eu hamlygu yn Atodiad A i’r adroddiad (a oedd yn werth £14,480m) yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2015/16 i 2019/20.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro yn ymgorffori’r rhestr o geisiadau cyfalaf a gynigiwyd gan yr adrannau i’w cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2015/16 i 2019/20. 

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod cais wedi ei wneud i’r adrannau gyflwyno bidiau am brosiectau cyfalaf yn y Rhaglen Gyfalaf 5 mlynedd ar ôl i’r Pwyllgor Gwaith fabwysiadu strategaeth gyfalaf ym mis Gorffennaf 2014.  Mae’r rhestr lawn o gynigion i’w gweld yn Atodiad A.  Adolygwyd y rhain fesul un a’u blaenoriaethu a’u sgorio wedyn yn seiliedig ar gyfres o feini prawf fel yr amlinellir yn Atodiad B i’r adroddiad. Cymharwyd y rhestr o fidiau yn erbyn amcangyfrif o’r adnoddau cyfalaf oedd ar gael (Atodiad C). Yr eitemau a oedd wedi eu hamlygu yn Atodiad A (a oedd yn werth £14,480m) oedd y rheini yr ystyriwyd eu bod yn briodol i’w cynnig ar gyfer eu cynnwys yn rhaglen gyfalaf 2015/16.  Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid mai’r nod yw i’r rhaglen gyfalaf fod yn hunangyllidol a cheisio osgoi cynyddu ei ymrwymiadau benthyca a’r costau cysylltiedig a bod yn fwy rhagweithiol o ran cael gwared ar asedau nad yw eu hangen mwyach.

 

Penderfynwyd y dylid cynnwys yr eitemau a oedd wedi eu hamlygu yn Atodiad A i’r adroddiad (a oedd yn werth £14,480m) yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2015/16 i 2019/20.