6 Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio PDF 215 KB
6.1 20C102L/EIA/RE – Fferm Wynt Rhyd y Groes, Rhosgoch
6.2 39C561/FR – Y Lodge, Ffordd Caergybi, Porthaethwy
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
6.1 20C102L/EIA/RE – Cais llawn i godi 13 o dyrbinau gwynt gyda 9 tyrbin gwynt 900kw hyd at 55m o uchder at yr hwb, diamedr rotor o hyd at 52m ar ei draws, ac uchder i frig y llafn o hyd at 79m, a 4 tyrbin gwynt 900kw hyd at 45m o uchder at yr hwb, diamedr rotor o hyd at 52m ar ei draws ac uchder i frig y llafn o hyd at 70m, ynghyd â chreu padiau craen, sylfeini, ceblau trydan o dan ddaear, gwelliannau i rannau o’r trac presennol, creu traciau mynediad newydd, gwneud gwaith i'r briffordd, estyniad i’r is-orsaf 33kv bresennol, codi is-orsaf 11kv newydd, codi anemomedr a chompownd adeiladu a storio dros dro ac ardal gwaith concrid (fydd yn cynnwys cael gwared ar y fferm wynt bresennol) yn Fferm Wynt Rhyd y Groes, Rhosgoch.
GOHIRIWYD ER MWYN AILDREFNU YMWELIAD Â’R SAFLE.
6.2 30C561/FR/TR – Cais llawn i godi Canolfan Zorb ynghyd ag adeiladu mynedfa i gerbydau a maes parcio ar dir ger ‘The Lodge’, Ffordd Caergybi, Porthaethwy.
GOHIRIWYD
Cofnodion:
6.1 Cais llawn i godi 13 o dyrbinau gwynt gyda 9 tyrbin gwynt 900kw hyd at 55m o uchder at yr hwb, diamedr rotor o hyd at 52m ar ei draws, ac uchder i frig y llafn o hyd at 79m, a 4 tyrbin gwynt 900kw hyd at 45m o uchder at yr hwb, diamedr rotor o hyd at 52m ar ei draws ac uchder i frig y llafn o hyd at 70m, ynghyd â chreu padiau craen, sylfeini, ceblau trydan o dan ddaear, gwelliannau i rannau o’r trac presennol, creu traciau mynediad newydd, gwneud gwaith i'r briffordd, estyniad i’r is-orsaf 33kv bresennol, codi is-orsaf 11kv newydd, codi anemomedr a chompownd adeiladu a storio dros dro ac ardal gwaith concrid (fydd yn cynnwys cael gwared ar y fferm wynt bresennol) yn Fferm Wynt Rhyd y Groes, Rhosgoch.
Wedi datgan ddiddordeb rhagfarnus yn y cais hwn, aeth y Cynghorydd W T Hughes, Cadeirydd, allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad yn ei gylch. Aeth y Cynghorydd Ann Griffith i’r gadair ar gyfer yr eitem.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr ymweliad safle a drefnwyd ar gyfer 16 Mawrth, 2016 wedi cael ei ohirio ar gais yr ymgeisydd oherwydd y disgwylir canlyniad trafodaethau gydag Adnoddau Naturiol Cymru i gytuno ar fesurau posibl ar gyfer lliniaru’r effeithiau ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyfagos. Mae'r trafodaethau'n parhau ac ni ragwelir y byddant yn dod i gasgliad mewn pryd i ganiatáu ymweliad safle ym mis Ebrill. Oherwydd y gall y trafodaethau hynny arwain at newidiadau sylweddol i'r cais, ystyrir ei bod yn synhwyrol felly i ohirio ymweliad safle ar hyn o bryd.
Penderfynwyd gohirio'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog er mwyn aildrefnu'r ymweliad safle.
6.2 39C561 / FR / TR - Cais llawn i godi Canolfan Zorb ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau a maes parcio ar dir yn The Lodge, Ffordd Caergybi, Porthaethwy
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.