12 Gweddill y Ceisiadau PDF 1 MB
12.1 22C228 – Ysgol Gynradd, Llanddona
12.2 34C694 – Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni
12.3 43C77G/VAR/ENF – Gerlan,Pontrhydybont
12.4 45C432C – Graig Fawr, Dwyran
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
2.1 22C228 - Cais llawn i newid defnydd a wneir o adeilad o fod yn ysgol gynradd i fod yn neuadd gymunedol, dymchwel rhan o'r adeilad presennol ynghyd â gwaith altro ac ymestyn yn Ysgol Gynradd, Llanddona
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais a rhoi grym i weithredu i’r Swyddog ar ôl i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben ar 16 Mai, 2016.
12.2 34C694 - Cais llawn i greu parc chwaraeon trefol ar dir ger Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 43C77G/VAR/ENF – Cais o dan Adran 73A i amrywio amodau (06) tirlunio, coed a llwyni, (07) gwrych yng nghefn lleiniau 1-3, (15) gwarchod y tai a gymeradwywyd rhag sŵn, ynghyd â dileu amod (05) tocio neu dorri coed neu wrychoedd oddi ar ganiatâd cynllunio cyfeirnod 43C77D yn Gerlan, Pontrhydybont
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 45C432C - Cais llawn i godi dwy annedd ynghyd a chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Graig Fawr, Dwyran
PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.
Cofnodion:
12.1 22C228 – Cais llawn i newid defnydd adeilad o hen ysgol gynradd i
neuadd gymunedol, dymchwel rhan o'r adeilad presennol ynghyd â
gwaith altro ac ymestyn yn Ysgol Gynradd, Llanddona
Wedi datgan diddordeb sy'n rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y
Cynghorydd Lewis Davies y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth a’r penderfyniad arno.
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod ar dir y Cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr Aelodau Lleol yn cefnogi'r cais ond nododd nad yw cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus statudol yn dod i ben tan 16 Mai, 2016.
Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd R. O. Jones y cynnig.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais a rhoi grym i weithredu i’r Swyddog ar ôl i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben ar 16 Mai, 2016.
12.2 34C694 – Cais llawn i greu parc chwaraeon trefol ar dir ger Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni
Wedi datgan diddordeb sy'n rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y
Cynghorydd T Victor Hughes y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth a’r
penderfyniad arno.
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y datblygiad ar dir y Cyngor.
Gwahoddodd y Cadeirydd Mr Peter Davies, un o gefnogwyr y cais, i annerch y cyfarfod.
Dywedodd Mr Davies fod y cais wedi cael cefnogaeth yr Aelod Seneddol a’r Aelod Cynulliad a bod Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn hefyd wedi cefnogi'r cais mewn egwyddor trwy roi arian grant tuag at y prosiect. Bydd y prosiect yn adfywio'r gymuned ar gyfer pobl ifanc fel y gallant fwynhau a chymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored yn y Parc Chwaraeon Trefol. Mae Pwyllgor y Parc Chwaraeon Trefol wedi cymryd drosodd y Parc Sglefrio blaenorol a leolwyd ar y safle hwn. Roedd mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a phroblemau cyffuriau ac alcohol wedi bod yn bryder i drigolion lleol yn yr hen barc sglefrio. Dywedodd Mr Davies fod Swyddogion y Parc Chwaraeon Trefol wedi bod mewn ymgynghoriad gyda Heddlu Gogledd Cymru ynghylch y problemau hyn a bwriedir gosod system teledu cylch cyfyng ar y safle fel y gellir monitro drwy wahanol dechnolegau TG.
Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, sef Aelod Lleol a Chadeirydd y Parc Chwaraeon Trefol, y byddai'n datgan diddordeb sy'n rhagfarnu ac yn gadael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais ar y cais hwn ar ôl iddo ddweud gair fel aelod lleol. Roedd y Cynghorydd Rees yn dymuno diolch i Mr. Davies am y weledigaeth hon i ddatblygu Parc Chwaraeon Trefol o’r fath ar safle’r hen barc sglefrio yn Llangefni. Roedd o'r farn y bydd y Parc Chwaraeon yn gaffaeliad mawr i Dref Llangefni a’r Ynys gyfan. Gadawodd y Cynghorydd Dylan Rees y cyfarfod wedi hynny.
Roedd y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Lleol hefyd yn dymuno
llongyfarch Swyddogion y Parc Chwaraeon Trefol am y weledigaeth o greu cyfleuster o'r ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12