8 Ceisiadau Economaidd PDF 212 KB
8.1 45C84R/ECON – Caffi’r Marram Grass, White Lodge, Niwbwrch
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
8.1 45C84R/ECON – Cais llawn ar gyfer codi adeilad oergell, adeilad achlysur, ac adeilad seminar ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau gyda maes parcio i gwsmeriaid, maes parcio cymunedol ac ardal hamdden a dymchwel adeilad allanol ar dir gyferbyn â Chaffi Marram Grass, White Lodge, Niwbwrch
Penderfynwyd YMWELD Â’R SAFLE
Cofnodion:
8.1 45C84R/ECON - Cais llawn ar gyfer codi adeilad oergell, adeilad achlysur, ac adeilad seminar ynghyd a chreu mynedfa i gerbydau gyda maes parcio i gwsmeriaid, maes parcio cymunedol ac ardal hamdden a dymchwel adeilad allanol ar dir yn gyferbyn â’r Marram Grass Cafe, White Lodge, Niwbwrch.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.
Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y drafodaeth a’r penderfyniad ar y cais fel y gallai siarad fel Aelod Lleol. Aeth yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd R O Jones, i’r gadair ar gyfer yr eitem hon.
Gofynnodd y Cynghorydd Ann Griffith i’r Pwyllgor ymweld â’r safle gan ei bod yn dymuno i Aelodau weld safle’r cais gan ei fod yn pontio’r AHNE ac yn ardal tirlun arbennig a gan ei bod yn dymuno iddynt weld drostynt eu hunain yr effaith drefoli bosibl y gallai’r cynnig ei chael ar y tirlun cyfagos yn ogystal â’r effaith bosibl ar gymeriad ac ymddangosiad yr ardal ac ar amwynderau preswyl.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylai’r Pwyllgor ymweld â’r safle ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.