12 Gweddill y Ceisiadau PDF 2 MB
12.1 18C225B – Bron Castell, Llanfairynghornwy
12.2 19C1198 – Pafiliwn Parc Caergybi, Caergybi
12.3 29LPA1008F/CC/VAR – Ysgol Rhyd y Llan, Llanfaethlu
12.4 38C324 – Alma Hall, Carreglefn
12.5 46C582/AD – Maes Parcio Y Range, Penrhosfeilw, Caergybi
12.6 46C583/AD – Maes Parcio Pysgotwyr, Penrhosfeilw, Caergybi
12.7 47C153 – Plas Newydd, Llanddeusant
12.8 47C154 – Plas Newydd, Llanddeusant
12.9 48C202 – Penrallt Bach, Gwalchmai
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 18C225B – Cais llawn i godi annedd newydd, creu mynedfa ynghyd â gosod paced trin carthffosiaeth ar dir ger Bron Castell, Llanfairynghornwy
Penderfynwyd YMWELD Â’R SAFLE
12.2 19C1198 – Cais llawn i newid defnydd adeilad o bafiliwn i gaffi ym Mhafiliwn Parc Caergybi, Caergybi
CANIATAWYD yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 20LPA1008F/CC/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (10) o ganiatad Cynllunio rhif 29LPA1008A/CC (codi Ysgol Gynradd newydd) er mwyn caniatau i rywfaint o oleuni lifo o’r safle dros y ffiniau yn Ysgol Rhyd y Llan, Llanfaethlu
CANIATAWYD yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 38C324 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda’r holl materion wedi’u cadw’n ôl ar dir yn Alma Hall, Carreglefn
Penderfynwyd YMWELD Â’R SAFLE
12.5 46C582/AD – Cais llawn i godi arwydd gwybodaeth ym Maes Parcio The Range, Penrhos Feilw, Holyhead
CANIATAWYD yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.6 46C583/AD – Cais llawn i godi arwydd gwybodaeth ym Maes Parcio Pysgotwyr, Penrhos Feilw, Holyhead
CANIATAWYD yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.7 47C153 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd sydd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa a gosod paced trin carthffosiaeth ynghyd â chreu estyniad i’r fynwent bresennol ar dir gyferbyn â Phlas Newydd, Llanddeusant
Penderfynwyd YMWELD Â’R SAFLE
12.8 47C145 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd sydd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa newydd ynghyd â gosod paced trin carthffosiaeth ar dir gyferbyn â Phlas Newydd, Llanddeusant
Penderfynwyd YMWELD Â’R SAFLE
12.9 48C202 – Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ym Mehnrallt Bach, Gwalchmai
Penderfynwyd YMWELD Â’R SAFLE
Cofnodion:
12.1 18C225B – Cais llawn i godi annedd newydd a chreu mynedfa ynghyd â gosod paced trin carthffosiaeth ar dir ger Bron Castell, Llanfairynghornwy
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.
Gofynnodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws, Aelod Lleol, i’r Pwyllgor gynnal ymweliad safle er mwyn i Aelodau gael gwell dealltwriaeth o safle’r cais o ran ei gyd-destun a’i berthnasedd i’r pentref.
Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes y dylai’r Pwyllgor gynnal ymweliad safle ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
Penderfynwyd ymgymryd ag ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.
12.2 19C1198 – Cais llawn i newid defnydd adeilad o bafiliwn i gaffi ym Mhafiliwn Parc Caergybi, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn un a wneir ar dir sy’n berchen i’r Cyngor.
Gwnaeth y Cynghorydd Jeff Evans ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais; arhosodd yn y cyfarfod.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad yn amodol ar yr amodau a nodir ynddo.
12.3 29LPA1008F/CC/VAR - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (10) o ganiatâd cynllunio rhif 29LPA1008A/CC (codi ysgol gynradd newydd) er mwyn caniatáu rhywfaint o oleuni i lifo o'r safle dros y ffiniau yn Ysgol Rhyd y Llan, Llanfaethlu.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan y Cyngor.
Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio bod yr amod gwreiddiol (10) ar y caniatâd ar gyfer yr ysgol newydd yn nodi y dylai unrhyw gynllun goleuni gael ei ddylunio fel nad oes unrhyw ollyngiad goleuni yn digwydd y tu hwnt i ffiniau’r safle. Fodd bynnag, nid yw wedi bod yn bosibl dylunio cynllun sy’n bodloni gofynion diogelwch goleuni ond nad yw’n golygu bod rhywfaint o oleuni’n gollwng i’r tir cyfagos. Mae cynllun goleuni newydd wedi’i ddylunio sy’n bodloni anghenion y Swyddogion Iechyd Amgylcheddol ond sy’n golygu peth gollyngiad i eiddo preswyl cyfagos. Mae’r Swyddogion Iechyd Amgylcheddol wedi cadarnhau bod y lefelau golau yn rhai na fyddant yn achosi niwsans yn yr ardal; yn ychwanegol at hynny fe gynigir cynllun rheoli caeth a fydd yn nodi pryd y caniateir defnyddio’r goleuadau ac mai dim ond yn ôl yr angen y bydd hynny’n digwydd. Mae buddion diogelwch i’r goleuadau ac mae Swyddogion yn fodlon nad yw’r effeithiau’n ddigonol i gyfiawnhau gwrthod y cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad gyda’r amodau a nodwyd ynddo.
12.4 38C324 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi'u cadw'n ôl ar dir yn Alma Hall, Carreglefn
Cyflwynwyd y cais i’r ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12