Mater - cyfarfodydd

Childcare Sufficiency Assessment

Cyfarfod: 24/04/2017 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 6)

6 Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant pdf eicon PDF 111 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant a’r Cynllun Gweithredu ar gyfer eu cyhoeddi a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 30 Ebrill, 2017.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Dysgu yn crynhoi canlyniad yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant ac yn ymgorffori Cynllun Gweithredu ar gyfer Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant am y cyfnod 2017-2022.

 

Crybwyllodd yr Aelod Portffolio Addysg y gofynion deddfwriaethol ar awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perthynas â sicrhau bod digon o ofal plant ar gael. O dan Adran 26 Deddf Gofal Plant 2006, mae'n rhaid i awdurdodau lleol gwblhau Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant a Chynllun Gweithredu bob 5 mlynedd. Bydd rhaid cyflwyno adroddiadau cynnydd blynyddol i ymhelaethu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu, y blaenoriaethau a'r cerrig milltir yn y cynllun gweithredu.

 

Adroddodd y Pennaeth Dysgu ar y negeseuon allweddol sy'n codi o’r asesiad llawn cyntaf o ddigonolrwydd gofal plant ar Ynys Môn ers cyhoeddi’r canllawiau diwygiedig ym mis Gorffennaf, 2016.  Mae'r asesiad yn cadarnhau fod amrywiaeth eang o ddarpariaethau gofal plant ledled y sir. Mae digon o ofal plant ar gael yn yr holl brif drefi ar gyfer plant 0-4 oed mewn meithrinfeydd dydd a thrwy ddarpariaeth gwarchodwyr plant. Mae holl ysgolion cynradd y sir yn cynnig clwb gofal plant o 8:00 o’r gloch y bore a chlwb brecwast am ddim wedyn o 8:25. Cefnogir darparwyr gofal plant drwy amrywiaeth o ddulliau.

 

Dywedodd y Swyddog bod yr asesiad hefyd wedi amlygu rhai bylchau yn y ddarpariaeth a disgrifir y bylchau hynny yn yr adroddiad. Lluniwyd Cynllun Gweithredu i fynd i'r afael â'r bylchau a rhestrwyd y mesurau y bwriedir eu rhoi ar waith.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y prinder o warchodwyr plant ledled y sir sy'n gallu siarad Cymraeg yn  destun pryder.  Dywedodd ei fod wedi gweld y Cylch Meithrin ym Menllech yn cau ac ychwanegodd ei fod yn deall bod arweinwyr y Cylch Meithrin ym Moelfre yn ymddeol a’i fod felly’n pryderu am ddyfodol y ddarpariaeth Cylch Meithrin yn yr ardal honno hefyd. Dywedodd y Cadeirydd ei fod, fel Arweinydd, wedi cysylltu â Phrif Weithredwr y Mudiad Meithrin a'r Swyddog Ardal ynghylch diwygio trefniadau llywodraethu'r sefydliad - awgrymodd y gallai fod yn ddefnyddiol pe bai'r Mudiad yn ystyried sefydlu Pwyllgor Meithrin yn nalgylchoedd yr ysgolion uwchradd. Gofynnodd i’r Prif Weithredwr a'r Pennaeth Dysgu ddilyn y mater hwn i fyny gyda’r Mudiad Meithrin. Gofynnodd y Cadeirydd hefyd bod y Pwyllgor Gwaith yn cael adroddiad  diweddaru cyn pen chwe mis mewn perthynas â’r cynnydd a wnaed yn erbyn y cynllun gweithredu o ran pontio'r bylchau yn y ddarpariaeth; amlygodd absenoldeb darpariaeth gofrestredig ar ôl oriau ysgol ac yn ystod y gwyliau yn Llangefni fel mater amlwg yr oedd angen rhoi sylw iddo ac ‘roedd o’r farn y dylid prysuro i sefydlu rhyw fath o ddarpariaeth ar gyfer y 547 o ddisgyblion ysgol gynradd sydd yn y dref.

 

Penderfynwyd derbyn yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant a’r Cynllun Gweithredu ar gyfer eu cyhoeddi a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 30 Ebrill, 2017.