11 Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 343 KB
11.1 14C164F – Tryfan, Trefor
11.2 15C108B – Dryll, Bodorgan
11.3 47C157 – Plas Newydd, Llanddeusant
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
11.1 14C164F - Cais i ymestyn cwrtil preswyl y tai newydd ger Tryfan, Trefor.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.2 15C108B - Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad allanol yn annedd ynghyd ag addasu ac ehangu a chreu mynedfa newydd i geir yn Dryll, Bodorgan.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.3 47C157 - Cais ôl-weithredol i greu mynedfa
newydd i geir ynghyd â chau’r fynedfa bresennol yn Plas Newydd, Llanddeusant.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
11.1 14C164F – Cais i ymestyn cwrtil preswyl y tai newydd ger Tryfan, Trefor.
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a
Gorchmynion benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn ffrind i
'swyddog perthnasol'. Mae'r cais wedi cael sylw gan y Swyddog
Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y
Cyfansoddiad.
Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio mai cais yw hwn i gadw'r estyniad
i gwrtil preswyl y ddau eiddo ac oherwydd bod y cwrtil estynedig y
tu cefn i’r eiddo ac yn ymestyn ymhellach i mewn i'r cae ni
fydd y cynnig yn cael effaith andwyol ar fwynderau eiddo
cyfagos.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei
ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd W.T. Hughes y
cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.2 15C108B – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad allanol yn annedd ynghyd ag addasu ac ehangu a chreu mynedfa newydd i geir yn Dryll, Bodorgan
Cyflwynwyd
y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno gan fod
yr ymgeisydd yn ffrind i 'Gynghorydd cyfredol'. Mae'r cais wedi
cael sylw gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff
4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Wedi datgan diddordeb sy'n
rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd Ann Griffith y
cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r penderfyniad yn ei
gylch.
Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes fod y cais yn cael ei
ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Jeffrey M. Evans y
cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.3 47C157 – Cais ôl-weithredol i greu mynedfa newydd i geir ynghyd â chau’r fynedfa bresennol yn Plas Newydd, Llanddeusant.
Cyflwynwyd
y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno gan fod
yr ymgeisydd yn ffrind i 'swyddog perthnasol'. Mae'r cais wedi cael
sylw gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff
4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd T V Hughes fod y cais yn cael ei
ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies y
cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.