6 Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio PDF 258 KB
6.1 34C304K/1/EIA/ECON – Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
6.1 34C304K/1/EIA/ECON - Cais hybrid am ganiatâd cynllunio llawn i greu canolfan beirianneg newydd, maes parcio, lle chwarae i blant a gwaith cysylltiedig a chais am ganiatâd cynllunio amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer datblygiad preswyl o 153 o anheddau, gwesty a chyfleuster bwyd a diod ynghyd â lle parcio cysylltiedig a gwaith ar dir yn Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:

Bu’r Cynghorydd K.P. Hughes ddatgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r cais hwn ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais o ganlyniad.
Yng nghyfarfod 1 Mawrth, 2017, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle. O ganlyniad, cynhaliwyd ymweliad safle ar 15 Mawrth, 2017. Yn ychwanegol at hynny, er budd aelodau etholedig newydd y Pwyllgor, ymwelwyd â’r safle eto ar 9 Mehefin, 2017.
Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod gwybodaeth ychwanegol wedi’i derbyn fel rhan o’r cais ac mae’r gwaith ymgynghori bellach yn mynd rhagddo.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.