7 Ceisiadau yn Codi PDF 591 KB
7.1 12C479B – Rose Hill, Biwmares
7.2 20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch
7.3 45C480 – Morannedd, Stryd y Capel, Niwbwrch
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
7.1 12C479B – Cais llawn ar gyfer codi annedd yn hen safle’r farchnad arddio ar dir tu ôl i Rose Hill, Biwmares.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog fel y nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.2 20C310B/EIA/RE – Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer ac isadeiledd cysylltiedig a gwaith
ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rhesymau a roddwyd.
7.3 45C480 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi'u cadw'n ôl ar dir tu cefn i Morannedd, Stryd y Capel, Niwbwrch.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog fel y nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
7.1 12C479B – Cais llawn ar gyfer codi annedd yn hen safle’r farchnad arddio ar dir tu ôl i Rose Hill, Biwmares.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.
Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Ebrill, 2017, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle. O ganlyniad, cynhaliwyd ymweliad safle ar 9 Mehefin, 2017.
Dywedodd Mr. Berwyn Owen (a oedd yn cefnogi’r cais) ei fod o’r farn bod adroddiad y Swyddog i’r Pwyllgor yn anghywir, roedd am i’r Pwyllgor fod yn ymwybodol yr ymgynghorwyd â Swyddog Cadwraeth y Cyngor yn helaeth mewn perthynas â’r cais hwn. Nododd fod Adroddiad Asesiad Effaith ar Dreftadaeth wedi’i lunio a’i fod wedi’i asesu gan y Swyddog Cadwraeth. Mae’r Swyddog Cadwraeth wedi mynegi ei gefnogaeth i’r cais. Dywedodd Mr Owen hefyd y byddai’r annedd arfaethedig yn gartref i bobl ifanc a bod y cais yn haeddu cefnogaeth.
Dywedodd y Swyddog Datblygu Cynllunio bod 5 llythyr o wrthwynebiad wedi eu derbyn mewn perthynas â’r cais hwn a bod y Cyngor Tref yn gwrthwynebu’r cais o ganlyniad i faterion parcio ac y byddai’r datblygiad yn arwain at ymwthiad anghydnaws yn yr ardal leol. Mae 2 lythyr o gefnogaeth wedi eu derbyn sy’n nodi y byddai datblygiad o’r fath yn gwella’r safle a’r ardal gyfagos. Nododd bod y Swyddog Cadwraeth yn cefnogi’r cais a bod Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd wedi mynegi y dylid rhoi amod archeolegol ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd i’r cais. Fodd bynnag, nodwyd bod y Swyddog Cynllunio o’r farn nad yw’r datblygiad yn cydymffurfio â’r pellteroedd angenrheidiol oddi wrth eiddo cyfagos fel y nodir yn y Canllawiau Cynllunio Atodol ar Agosrwydd Datblygiadau. Mae’r canllawiau’n nodi y dylai prif ffenestri’r llawr gwaelod fod wedi’u lleoli o leiaf 10.5 metr o’r terfyn.
Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid gwrthod y cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog fel y nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.2 20C310B/EIA/RE – Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer ac isadeiledd cysylltiedig a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch
Bu’r Cynghorydd Richard O. Jones ddatgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r cais hwn ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais o ganlyniad.
Yn ei gyfarfod ar 27 Gorffennaf, 2016, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle. O ganlyniad, cynhaliwyd ymweliad safle ar 17 Awst, 2016. Cafwyd penderfyniad pellach yng nghyfarfod 1 Mawrth, 2017 i ymweld â’r safle a cynhaliwyd yr ymweliad safle hwnnw ar 15 Mawrth, 2016. Yn ychwanegol ar hynny, er budd yr aelodau etholedig newydd, ymwelwyd â’r safle eto ar 9 Mehefin, 2017.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod cais wedi’i dderbyn gan 2 siaradwr cyhoeddus, sy’n gwrthwynebu’r cais, i annerch y cyfarfod. Nododd fod y protocol yn y Cyfansoddiad yn rhoi’r disgresiwn i’r Cadeirydd ganiatáu i fwy nag un siaradwr annerch y cyfarfod os ystyrir hynny’n briodol lle mae cais sylweddol yn cael ei ystyried. Nodwyd, ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7