8 Ceisiadau Economaidd PDF 406 KB
8.1 34LPA1034/CC/ECON – Parc Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni
8.2 45LPA1029A/ECON – Morawelon, Niwbwrch
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
8.1 34LPA1034/CC/ECON – Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer dau blot, sef defnydd busnes (Dosbarth B1), defnydd diwydiannol cyffredinol (Dosbarth B2) ac i’w defnyddio fel warws ac i ddosbarthu (Dosbarth B8) fel estyniad i’r parc busnes ar dir Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol mewn perthynas â gwarchod rhywogaethau ar y tir ac y cynhelir asesiad anghenion o ran llygredd a draeniad y tir.
8.2 45LPA1029A/CC/ECON – Cais llawn ar gyfer codi ysgol gynradd newydd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger
Morawelon, Niwbwrch.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.
Cofnodion:
8.1 34LPA1034/CC/ECON – Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer dau blot, sef defnydd busnes (Dosbarth B1), defnydd diwydiannol cyffredinol (Dosbarth B2) ac i’w defnyddio fel warws ac i ddosbarthu (Dosbarth B8) fel estyniad i’r parc busnes ar dir Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn un a wneir gan y Cyngor.
Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y bydd y cais amlinellol ar gyfer 7 uned sydd wedi’u cynnwys ar 3 llain o dir ac a fydd yn cael eu croesi gan Ffordd Gyswllt Llangefni. Nododd fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud cais am roi amod ychwanegol ar unrhyw ganiatâd a roddir mewn perthynas â gwarchod unrhyw rywogaethau sydd ar y tir a bod angen cynnal asesiad mewn perthynas â llygredd a draeniad ar y tir.
Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol mewn perthynas â gwarchod rhywogaethau ar y tir ac y cynhelir asesiad anghenion o ran llygredd a draeniad y tir.
8.2 45LPA1029A/CC/ECON – Cais llawn ar gyfer codi ysgol gynradd newydd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Morawelon, Niwbwrch.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn un a wneir gan y Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones, fel Aelod Lleol, y dylid ymweld â’r safle gan ei fod tu allan i’r ffin datblygu a gan fod y safle wedi’i leoli dros y ffordd i eiddo preswyl. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd T.Ll Hughes.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.