Mater - cyfarfodydd

Ceisiadau Economaidd

Cyfarfod: 14/06/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 8)

8 Ceisiadau Economaidd pdf eicon PDF 406 KB

8.1  34LPA1034/CC/ECON – Parc Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni

8.2  45LPA1029A/ECON – Morawelon, Niwbwrch

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

8.1         34LPA1034/CC/ECON – Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer dau blot, sef defnydd busnes (Dosbarth B1), defnydd diwydiannol cyffredinol (Dosbarth B2) ac i’w defnyddio fel warws ac i ddosbarthu (Dosbarth B8) fel estyniad i’r parc busnes ar dir Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol mewn perthynas â gwarchod rhywogaethau ar y tir ac y cynhelir asesiad anghenion o ran llygredd a draeniad y tir.   

 

8.2   45LPA1029A/CC/ECON – Cais llawn ar gyfer codi ysgol gynradd newydd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger

         Morawelon, Niwbwrch.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd. 

 

Cofnodion:

8.1         34LPA1034/CC/ECON – Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer dau blot, sef defnydd busnes (Dosbarth B1), defnydd diwydiannol cyffredinol (Dosbarth B2) ac i’w defnyddio fel warws ac i ddosbarthu (Dosbarth B8) fel estyniad i’r parc busnes ar dir Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn un a wneir gan y Cyngor. 

 

Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y bydd y cais amlinellol ar gyfer 7 uned sydd wedi’u cynnwys ar 3 llain o dir ac a fydd yn cael eu croesi gan Ffordd Gyswllt Llangefni. Nododd fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud cais am roi amod ychwanegol ar unrhyw ganiatâd a roddir mewn perthynas â gwarchod unrhyw rywogaethau sydd ar y tir a bod angen cynnal asesiad mewn perthynas â llygredd a draeniad ar y tir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol mewn perthynas â gwarchod rhywogaethau ar y tir ac y cynhelir asesiad anghenion o ran llygredd a draeniad y tir. 

 

8.2         45LPA1029A/CC/ECON – Cais llawn ar gyfer codi ysgol gynradd newydd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Morawelon, Niwbwrch.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn un a wneir gan y Cyngor. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones, fel Aelod Lleol, y dylid ymweld â’r safle gan ei fod tu allan i’r ffin datblygu a gan fod y safle wedi’i leoli dros y ffordd i eiddo preswyl. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd T.Ll Hughes. 

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.