10 Ceisiadau'n Gwyro PDF 280 KB
10.1 31C170E – Hen Lôn Dyfnia, Llanfairpwll
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
10.1 31C170E – Cais llawn i godi 16 annedd (10 annedd gyda 2 ystafell wely, 4 annedd gyda 3 ystafell wely a 2 annedd gyda 4 ystafell wely) ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ac i gerddwyr ar dir ger Hen Lôn Dyfnia, Llanfairpwll
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais y Cadeirydd a hynny am y rhesymau a roddwyd.
Cofnodion:

Bu’r Cynghorydd Robin Williams ddatgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r cais hwn ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais o ganlyniad.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn wahanol i’r cynllun datblygu y mae’r awdurdod lleol yn ystyried y dylid ei ganiatáu. Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor gan y Aelodau Lleol hefyd.
Dywedodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Nicola Roberts, o ganlyniad i bryderon lleol am y cais ei bod hi’n cynnig y dylid ymweld â’r safle. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd R.O.Jones.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais y Cadeirydd a hynny am y rhesymau a roddwyd.