11 Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 399 KB
11.1 21C76G – 4 Maes y Coed, Llanddaniel
11.2 36C351 – Ty Llwyd, Rhostrehwfa
11.3 41C99W/LUC – Nant y Felin, Bryn Gof, Star
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
11.1 21C76G – Cais llawn ar gyfer ail-leoli’r sied ardd bresennol, addasu ac ehangu ynghyd â chodi ffens newydd ar y ffin yn 4 Maes y Coed, Llanddaniel
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.2 36C351 – Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi annedd newydd yn ei lle, codi garej a storfa offer, cau’r fynedfa gerbydau sy’n gwasanaethu’r annedd bresennol, estyniad i’r cwrtil, addasiadau i’r fynedfa amaethyddol bresennol er mwyn gwasanaethu’r annedd arfaethedig a chreu mynedfa amaethyddol newydd i’r cae cyfagos yn Ty Llwyd, Rhostrehwfa.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.
11.3 41C99W/LUC – Cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon ar gyfer codi estyniad y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer dan Ddosbarth A, Rhan 1 Atodlen 2 o'r Gorchymyn Cynllunio Gwlad A Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2013 yn Nant y Felin, Bryn Gof, Star.

Cofnodion:
11.1 21C76G – Cais llawn ar gyfer ail-leoli’r sied ardd bresennol, addasu ac ehangu
ynghyd â chodi ffens newydd ar y ffin yn 4 Maes y Coed, Llanddaniel
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn swyddog perthnasol. Mae’r cais wedi ei graffu gan y Swyddog Monitro yn unol â’r angen a nodir ym mharagraff 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.2 36C351 – Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi annedd newydd yn ei lle, codi garej a storfa offer, cau’r fynedfa gerbydau sy’n gwasanaethu’r annedd bresennol, estyniad i’r cwrtil, addasiadau i’r fynedfa amaethyddol bresennol er mwyn gwasanaethu’r annedd arfaethedig a chreu mynedfa amaethyddol newydd i’r cae cyfagos yn Ty Llwyd, Rhostrehwfa.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn ffrind agos i swyddog perthnasol. Mae’r cais wedi ei graffu gan y Swyddog Monitro yn unol â’r angen a nodir ym mharagraff 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad. Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor hefyd gan fod y tir yn berchen i’r Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, fel Aelod Lleol, y dylid ymweld â’r safle er mwyn gallu asesu effaith y datblygiad ar fwynderau lleol. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd T.Ll Hughes.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.
11.3 41C99W/LUC – Cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon ar gyfer codi estyniad y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer dan Ddosbarth A, Rhan 1 Atodlen 2 o'r Gorchymyn Cynllunio Gwlad A Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2013 yn Nant y Felin, Bryn Gof, Star.
Bu’r Cynghorydd John Griffith ddatgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r cais hwn ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais o ganlyniad.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn swyddog perthnasol. Mae’r cais wedi ei graffu gan y Swyddog Monitro yn unol â’r angen a nodir ym mharagraff 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd R.O. Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.