7 Strategaeth Tai Gwag PDF 2 MB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Strategaeth Tai Gwag ar gyfer 2017-2022.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo.
Adroddodd yr Arweinydd fel y Deilydd Portffolio ar gyfer Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol mai’r Strategaeth Tai Gwag yw’r ail strategaeth i’r Gwasanaethau Tai ei chynhyrchu. Datblygwyd y strategaeth mewn ymgynghoriad â phartneriaid allweddol. Dymunai ddiolch i’r Swyddogion sydd wedi bod ynghlwm â chwblhau Strategaeth Tai Gwag y Cyngor.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod oddeutu 800 o dai sydd wedi bod yn wag am chwe mis neu fwy ar hyn o bryd. Dros y pedair blynedd diwethaf mae bron i 400 o eiddo wedi cael eu dychwelyd yn ôl i ddefnydd o ganlyniad i waith y Gwasanaeth Tai Gwag. Cyfeiriodd at y rhestr aros am dai cymdeithasol a’r angen am dai gwag o’r fath i fod ar gael i gwrdd â’r anghenion tai ar yr Ynys.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod trafodaethau wedi digwydd yn y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin, 2016 ynglŷn â’r Strategaeth Tai Gwag. Cyfeiriodd at y sylwadau a wnaed yn y Pwyllgor ynglŷn ag effaith yr orsaf bŵer niwclear newydd arfaethedig ar anghenion tai ar yr ynys.
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Strategaeth Tai Gwag 2017-2022.