Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel y nodwyd uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 8 Ionawr, 2020. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 8 Ionawr, 2020 a chadarnhawyd eu bod yn gofnod cywir. |
|
Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safle a gafwyd ar 22 Ionawr, 2020. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnahwyd cofnodion yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 22 Ionawr, 2020 fel cofnod cywir. |
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw siaradwyr cyhoeddus yn y cyfarfod hwn. |
|
Ceisiadau a fydd yn cael eu gohirio PDF 361 KB 6.1 19C1231 – Stad Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
6.1 19C1231 - Cais amlinellol ar gyfer codi 32 annedd marchnad a 4 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr, darparu man chwarae a mannau agored ynghyd â manylion llawn y fynedfa a’r gosodiad ar dir ger Stad Cae Rhos Estate, Ffordd Porthdafach, Caergybi.
Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod wedi’i alw mewn i’r Pwyllgor gan Aelodau Lleol. Yn ei gyfarfod ar 8 Ionawr 2020, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â safle’r cais cyn gwneud penderfyniad. Ymwelwyd â’r safle ar 22 Ionawr 2020.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y safle wedi’i adnabod at ddibenion preswyl ond fod gan yr Awdurdod Priffyrdd bryderon sylweddol o ran sefyllfa israddol bresennol y briffordd gyhoeddus sy’n arwain at y safle.
Adroddodd yr Uwch Beiriannydd (Traffig a Pharcio) bod Asesiad Trafnidiaeth wedi ei gomisiynu gan yr Awdurdod Priffyrdd mewn perthynas â’r safle hwn a fydd yn cael ei gynnal dros gyfnod o 24 awr er mwyn gweld prysurdeb y traffig yn yr ardal; mae canlyniadau’r Asesiad Traffig yn dal i gael eu disgwyl amdanynt. Cyflwynwyd Asesiad Trafnidiaeth fel rhan o’r cais gan yr ymgeisydd ond cafodd ei ymgymryd ag ef yn ystod symudiadau traffig yn gynnar yn y bore ac yn hwyr yn y prynhawn.
Yr argymhelliad i’r Pwyllgor oedd i ohirio gwneud penderfyniad ar y cais.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol â’r rhesymau a nodwyd ac argymhelliad y Swyddog.
|
|
Ceisiadau'n Codi Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw achosion o’r fath yn y cyfarod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw achosion o’r fath yn y cyfarod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw achosion o’r fath yn y cyfarod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
10.1 VAR/2019/84 – Rhos Bothan, Llanddaniel 10.2 VAR/2019/87 - Isfryn, Glanrafon Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 10.1 VAR/2019/84 - Cais o dan Adran 73a i ddiwygio amod (02) (Dim gwaith i'w wneud adeg tymor nythu), amod (03) (Dim datblygiad tan bod mesurau lliniaru wedi cael eu cyflwyno a'u cymeradwyo) , amod (04)(Dim datblygiad tan bod datganiad dull wedi cael ei gyflwyno) ac amod (07) (Dim datblygiad tan bod cofnod ffotograffig wedi cael ei gyflwyno) o ganiatâd cynllunio 21C169 yn Rhos Bothan, Llanddaniel, Gaerwen.
Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn wyriad oddi wrth y cynllun datblygu y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu ei ganiatáu.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod gan y cais ganiatâd sydd eisoes yn bodoli er mwyn addasu adeilad presennol sydd wedi’i leoli mewn lleoliad cefn gwlad i fod yn un annedd ond nid yw amodau caniatâd y cais wedi cael eu glynu atynt a cais yw hwn er mwyn ceisio caniatâd o dan yr amodau perthnasol sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad. Dywedodd fod y datblygwr wedi cyflwyno manylion lliniaru er mwyn bodloni mesurau ecolegol rhywogaethau a warchodir ac mae cofnod ffotograffig o’r adeilad wedi’i gyflwyno er mwyn bodloni gofynion archeolegol. Fodd bynnag, mae’r Swyddog Ecoleg wedi gofyn am fanylion pellach o ran gwarchod rhywogaethau ar y safle. Adroddodd y Swyddog ymhellach ei bod yn ymddangos fod y fynedfa i’r safle i weld wedi ei hadeiladu yn unol â chaniatâd blaenorol y cais ond disgwylir sylwadau’r Awdurdod Priffyrdd mewn perthynas â manylion y fynedfa. Roedd yr argymhelliad yn un o ganiatáu yn amodol ar dderbyn manylion boddhaol.
Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.2 VAR/2019/87 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (12) (Cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif 35C237D/VAR (Codi annedd) er mwyn diwygio’r dyluniad yn Isfryn, Glanrafon.
Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr argymhelliad yn un o ganiatáu, sy’n groes i Bolisi TAI 6 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod ardal Glanrafon bellach yn cael ei hadnabod fel Clwstwr o dan ddarpariaethau Polisi TAI 6 o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, sydd ddim yn cefnogi’r ddarpariaeth o dai marchnad agored. Fodd bynnag, mae gan y safle ganiatâd cynllunio eisoes a’r cais gerbron y Pwyllgor hwn yw i newid dyluniad yr annedd ac mae’r cais wedi lleihau o ran maint. Ystyrir y cais yn dderbyniol o fewn ei gyd-destun ac o fewn yr ardal AHNE. Mae cais sgrinio wedi ei gyflwyno ar gyfer ei asesu. Dywedodd y Swyddog hefyd bod angen cysylltu amod ychwanegol â’r cais sy’n gwahardd gweithrediad y caniatâd blaenorol.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 471 KB 11.1 HHP/2019/295 – Kirkland, Ffordd Gorad, Y Fali Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 11.1 HHP/2019/295 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Kirkland, Ffordd Gorad, Y Fali.
Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i Swyddog perthnasol. Yn unol â chyfansoddiad y Cyngor, mae Swyddog Monitro’r Cyngor wedi craffu ar y cais.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un ar gyfer estyniad un llawr ar hyd ochr yr eiddo gyda tho ar oledd a phortsh i’r drychiad blaen. Dim ond y portsh a ddangosir ar y cynlluniau sydd angen caniatâd cynllunio gan fod y drychiad ochr yn ddatblygiad a ganiateir, nad yw angen caniatâd cynllunio. Nododd fod y Cyngor Cymuned lleol bellach wedi nodi nad oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad i’r cais. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio hefyd nad yw’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod i ben tan 5 Chwefror, 2020 a gofynnodd am i’r Swyddogion gael yr hawl i weithredu yn dilyn y cyfnod ymgynghori statudol os nad oedd unrhyw sylwadau wedi eu derbyn.
Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi’r grym i Swyddogion weithredu ar ôl i’r cyfnod o ymgynghori statudol cyhoeddus ddod i ben.
|
|
12.1 LBC/2019/45 – Mynwent Isaf, Sant Cybi, Ffordd Victoria, Caergybi 12.2 OP/2019/16 – Beecroft, Ffordd yr Orsaf, Y Fali 12.3 FPL/2019/253 – Penfor, Porth Swtan 12.4 FPL/2019/275 – 14 Maes William Williams, Amlwch 12.5 FPL/2019/278 – Ysgol Gynradd Llanfachraeth 12.6 FPL/2019/337 – Stad Ddiwydiannol Mona, Gwalchmai Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 LBC/2019/45 - Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith i giât yr eglwys ym Mynwent Isaf St Cybi's Lower Church Yard, Ffordd Victoria Road, Caergybi.
Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi’i gyflwyno gan y Cyngor ar dir preifat.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais hwn yn gais am ganiatâd adeilad rhestredig i symud y giatiau haearn bwrw i weithdy arbenigol am gyfnod dros dro er mwyn trin rhwd ac atgyweirio ac adfer nodweddion.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 OP/2019/16 - Cais amlinellol ar gyfer dymchwel annedd presennol ynghyd â chodi 4 annedd yn ei le (un fforddiadwy) sydd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa a'r gosodiad yn Beecroft, Ffordd yr Orsaf/Station Road, Y Fali.
Adroddwyd fod y cais hwn wedi ei dynnu’n ôl.
12.3 FPL/2019/253 - Cais llawn ar gyfer trosi adeiladau allanol i ddwy uned wyliau sydd yn cynnwys addasu ac ehangu ynghyd â gosod pecyn trin carthffosiaeth yn Penfor, Porth Swtan.
Cyfeiriwyd y cais hwn at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes, gan mai ef oedd wedi cyfeirio’r cais at y Pwyllgor, ei fod yn cynnig y dylid cynnal ymweliad safle er mwyn gadael i Aelodau’r Pwyllgor weld y safle o ganlyniad i bryderon lleol sy’n bodoli mewn perthynas ag edrych drosodd a chyflwr y ffordd tuag at safle’r cais. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle ar gais yr Aelod Lleol ac yn unol â’r rhesymau a roddwyd.
12.4 FPL/2019/275 - Cais llawn ar gyfer codi 4 annedd newydd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger 14 Maes William Williams, Amlwch.
Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi’i gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol ar dir sy’n berchen i’r Cyngor.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y datblygiad arfaethedig yn cynnwys anheddau un llawr sy’n cynnwys dau floc o ddau annedd. Darperir yr holl anheddau â mannau parcio dynodedig a mannau amwynder preifat a gellir cael mynediad i’r safle o ffordd bresennol y Stad. Adroddodd, er ei bod yn cael ei dderbyn fod y cais yn cael ei gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol am lety fforddiadwy, bydd angen gosod amodau ychwanegol ar gyfer y ddarpariaeth o dai fforddiadwy ynghyd ag amod am gynnal a chadw ffordd y stad yn y dyfodol.
Cynigiodd y Cynghorydd R O Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac amodau ychwanegol mewn perthynas â chynnal a chadw ffordd y stad yn y dyfodol a’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy.
12.5 FPL/2019/278 Cais llawn ar gyfer dymchwel adeiladau ysgol presennol a ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw achosion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |