Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 102 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 8 Ionawr, 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 8 Ionawr, 2020 a chadarnhawyd eu bod yn gofnod cywir.

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 14 KB

Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safle a gafwyd ar 22 Ionawr, 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnahwyd cofnodion yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 22 Ionawr, 2020 fel cofnod cywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw siaradwyr cyhoeddus yn y cyfarfod hwn.

6.

Ceisiadau a fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 361 KB

6.1  19C1231 – Stad Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

6.1  19C1231 - Cais amlinellol ar gyfer codi 32 annedd marchnad a 4 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr, darparu man chwarae a mannau agored ynghyd â manylion llawn y fynedfa a’r gosodiad ar dir ger Stad Cae Rhos Estate, Ffordd Porthdafach, Caergybi.

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod wedi’i alw mewn i’r Pwyllgor gan Aelodau Lleol. Yn ei gyfarfod ar 8 Ionawr 2020, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â safle’r cais cyn gwneud penderfyniad. Ymwelwyd â’r safle ar 22 Ionawr 2020.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y safle wedi’i adnabod at ddibenion preswyl ond fod gan yr Awdurdod Priffyrdd bryderon sylweddol o ran sefyllfa israddol bresennol y briffordd gyhoeddus sy’n arwain at y safle.

 

Adroddodd yr Uwch Beiriannydd (Traffig a Pharcio) bod Asesiad Trafnidiaeth wedi ei gomisiynu gan yr Awdurdod Priffyrdd mewn perthynas â’r safle hwn a fydd yn cael ei gynnal dros gyfnod o 24 awr er mwyn gweld prysurdeb y traffig yn yr ardal; mae canlyniadau’r Asesiad Traffig yn dal i gael eu disgwyl amdanynt. Cyflwynwyd Asesiad Trafnidiaeth fel rhan o’r cais gan yr ymgeisydd ond cafodd ei ymgymryd ag ef yn ystod symudiadau traffig yn gynnar yn y bore ac yn hwyr yn y prynhawn. 

 

Yr argymhelliad i’r Pwyllgor oedd i ohirio gwneud penderfyniad ar y cais.   

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol â’r rhesymau a nodwyd ac argymhelliad y Swyddog.  

 

 

7.

Ceisiadau'n Codi

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw achosion o’r fath yn y cyfarod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw achosion o’r fath yn y cyfarod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw achosion o’r fath yn y cyfarod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 380 KB

10.1  VAR/2019/84 – Rhos Bothan, Llanddaniel

10.2  VAR/2019/87 -  Isfryn, Glanrafon

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1  VAR/2019/84 - Cais o dan Adran 73a i ddiwygio amod (02) (Dim gwaith             i'w wneud adeg tymor nythu), amod (03) (Dim datblygiad tan bod        mesurau lliniaru wedi cael eu cyflwyno a'u cymeradwyo) , amod          (04)(Dim datblygiad tan bod datganiad dull wedi cael ei gyflwyno) ac             amod (07) (Dim datblygiad tan bod cofnod ffotograffig wedi cael ei gyflwyno) o ganiatâd cynllunio 21C169 yn Rhos Bothan, Llanddaniel,    Gaerwen.

 

          Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn    wyriad oddi wrth y cynllun datblygu y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu ei ganiatáu.

 

          Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod gan y cais ganiatâd sydd eisoes yn bodoli er mwyn addasu adeilad presennol sydd wedi’i leoli mewn lleoliad cefn gwlad i fod yn un annedd ond nid yw amodau caniatâd y cais            wedi cael eu glynu atynt a cais yw hwn er mwyn ceisio caniatâd o dan yr amodau perthnasol sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad. Dywedodd fod y datblygwr wedi cyflwyno manylion lliniaru er mwyn bodloni mesurau ecolegol rhywogaethau a warchodir ac mae cofnod ffotograffig o’r adeilad wedi’i gyflwyno er mwyn bodloni gofynion archeolegol. Fodd bynnag, mae’r Swyddog Ecoleg wedi gofyn am fanylion pellach o ran gwarchod rhywogaethau ar y safle. Adroddodd y Swyddog ymhellach ei bod yn ymddangos fod y fynedfa i’r safle i weld wedi ei hadeiladu yn unol â chaniatâd blaenorol y cais ond disgwylir sylwadau’r Awdurdod Priffyrdd mewn perthynas â manylion y fynedfa. Roedd yr argymhelliad yn un o ganiatáu yn amodol ar dderbyn manylion boddhaol.           

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones. 

 

          PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  VAR/2019/87 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (12) (Cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif 35C237D/VAR (Codi annedd) er mwyn diwygio’r dyluniad yn Isfryn, Glanrafon.

 

Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr argymhelliad yn un o ganiatáu, sy’n groes i Bolisi TAI 6 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod ardal Glanrafon bellach yn cael ei hadnabod fel Clwstwr o dan ddarpariaethau Polisi TAI 6 o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, sydd ddim yn cefnogi’r ddarpariaeth o dai marchnad agored. Fodd bynnag, mae gan y safle ganiatâd cynllunio eisoes a’r cais gerbron y Pwyllgor hwn yw i newid dyluniad yr annedd ac mae’r cais wedi lleihau o ran maint. Ystyrir y cais yn dderbyniol o fewn ei gyd-destun ac o fewn yr ardal AHNE. Mae cais sgrinio wedi ei gyflwyno ar gyfer ei asesu. Dywedodd y Swyddog hefyd bod angen cysylltu amod ychwanegol â’r cais sy’n gwahardd gweithrediad y caniatâd blaenorol.    

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones. 

 

          PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 471 KB

11.1  HHP/2019/295 – Kirkland, Ffordd Gorad, Y Fali

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1  HHP/2019/295 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Kirkland, Ffordd Gorad, Y Fali.

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i Swyddog perthnasol. Yn unol â chyfansoddiad y Cyngor, mae Swyddog Monitro’r Cyngor wedi craffu ar y cais. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un ar gyfer estyniad un llawr ar hyd ochr yr eiddo gyda tho ar oledd a phortsh i’r drychiad blaen. Dim ond y portsh a ddangosir ar y cynlluniau sydd angen caniatâd cynllunio gan fod y drychiad ochr yn ddatblygiad a ganiateir, nad yw angen caniatâd cynllunio. Nododd fod y Cyngor Cymuned lleol bellach wedi nodi nad oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad i’r cais. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio hefyd nad yw’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod i ben tan 5 Chwefror, 2020 a gofynnodd am i’r Swyddogion gael yr hawl i weithredu yn dilyn y cyfnod ymgynghori statudol os nad oedd unrhyw sylwadau wedi eu derbyn.     

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

          PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi’r grym i Swyddogion           weithredu ar ôl i’r cyfnod o ymgynghori statudol cyhoeddus ddod i ben.

 

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1 MB

12.1  LBC/2019/45 – Mynwent Isaf, Sant Cybi, Ffordd Victoria, Caergybi

12.2  OP/2019/16 – Beecroft, Ffordd yr Orsaf, Y Fali

12.3  FPL/2019/253 – Penfor, Porth Swtan

12.4  FPL/2019/275 – 14 Maes William Williams, Amlwch

12.5  FPL/2019/278 – Ysgol Gynradd Llanfachraeth

12.6  FPL/2019/337 – Stad Ddiwydiannol Mona, Gwalchmai

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 12.1  LBC/2019/45 - Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith i giât yr eglwys ym Mynwent Isaf St Cybi's Lower Church Yard, Ffordd Victoria Road, Caergybi.

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi’i gyflwyno gan y Cyngor ar dir preifat.   

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais hwn yn gais am ganiatâd

adeilad rhestredig i symud y giatiau haearn bwrw i weithdy arbenigol am

gyfnod dros dro er mwyn trin rhwd ac atgyweirio ac adfer nodweddion.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

            PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y           Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  OP/2019/16 - Cais amlinellol ar gyfer dymchwel annedd presennol ynghyd â chodi 4 annedd yn ei le (un fforddiadwy) sydd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa a'r gosodiad yn Beecroft, Ffordd yr Orsaf/Station Road, Y Fali.

 

            Adroddwyd fod y cais hwn wedi ei dynnu’n ôl.

 

12.3  FPL/2019/253 - Cais llawn ar gyfer trosi adeiladau allanol i ddwy uned wyliau sydd yn cynnwys addasu ac ehangu ynghyd â gosod pecyn trin carthffosiaeth yn Penfor, Porth Swtan.

 

Cyfeiriwyd y cais hwn at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.  

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes, gan mai ef oedd wedi cyfeirio’r cais at y Pwyllgor, ei fod yn cynnig y dylid cynnal ymweliad safle er mwyn gadael i Aelodau’r Pwyllgor weld y safle o ganlyniad i bryderon lleol sy’n bodoli mewn perthynas ag edrych drosodd a chyflwr y ffordd tuag at safle’r cais. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.    

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle ar gais yr Aelod Lleol ac yn unol â’r rhesymau a roddwyd.

 

 

12.4  FPL/2019/275 - Cais llawn ar gyfer codi 4 annedd newydd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger 14 Maes William Williams, Amlwch.

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi’i gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol ar dir sy’n berchen i’r Cyngor.   

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y datblygiad arfaethedig yn cynnwys anheddau un llawr sy’n cynnwys dau floc o ddau annedd. Darperir yr holl anheddau â mannau parcio dynodedig a mannau amwynder preifat a gellir cael mynediad i’r safle o ffordd bresennol y Stad. Adroddodd, er ei bod yn cael ei dderbyn fod y cais yn cael ei gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol am lety fforddiadwy, bydd angen gosod amodau ychwanegol ar gyfer y ddarpariaeth o dai fforddiadwy ynghyd ag amod am gynnal a chadw ffordd y stad yn y dyfodol. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd R O Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.

 

            PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y           Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac amodau ychwanegol mewn perthynas â chynnal a chadw ffordd y stad yn y dyfodol a’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy.

 

12.5  FPL/2019/278 Cais llawn ar gyfer dymchwel adeiladau ysgol presennol a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw achosion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.