Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 3ydd Rhagfyr, 2014 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd yr ymddiheuriadau fel yr uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn:

 

Y Cynghorydd W.T. Hughes mewn perthynas ag eitem 6.2

Y Cynghorydd Victor Hughes mewn perthynas ag eitem 7.5

Y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith, Vaughan Hughes a Nicola Roberts mewn perthynas â cheisiadau 6.2 a 6.3 oherwydd y cyfeiriad at dyrbinau gwynt ym maniffesto Plaid Cymru. Dywedodd yr Aelodau y byddent yn cadw meddwl agored ac yn penderfynu ar bob cais yn ôl ei rinweddau ei hun.

3.

Cofnodion Cyfarfod 5 Tachwedd, 2014 pdf eicon PDF 274 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd, 2014.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2014.

4.

Ymweliadau Safle

Adrodd y cynhaliwyd ymweliadau safle ar 19 Tachwedd, 2014 mewn perthynas â’r ceisiadau canlynol:

 

           40C233B/VAR - Cais i ddiwygio amod (01) (Trac a ganiateir ar gyfer defnydd amaethyddol) ar ganiatâd cynllunio 40C233 i ganiatáu cadw’r trac ar gyfer ddefnydd amaethyddol a symudiad cerbydau ar gyfer gofynion gweithredol Parc Carafannau Tyddyn Isaf yn unig yn The Owls, Dulas

 

           46C192B/FR – Cais llawn ar gyfer gosod arfwisg graig o flaen y wal strwythur caergawell presennol yn Dinghy Park, Porth Castell, Ravenspoint Road, Trearddur

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd bod ymweliadau safle wedi eu cynnal ar 19 Tachwedd, 2015 mewn perthynas â'r ceisiadau canlynol:  

 

  40C233B/VAR – Cais i ddiwygio amod (01) (Trac a ganiateir ar gyfer defnydd amaethyddol) ar ganiatâd cynllunio 40C233 i ganiatáu cadw’r trac ar gyfer ddefnydd amaethyddol a symudiad cerbydau ar gyfer gofynion gweithredol Parc Carafanau Tyddyn Isaf yn unig yn The Owls, Dulas.

  46C129B/FR – Cais llawn ar gyfer gosod arfwisg graig o flaen y wal strythur caergawell presennol yn Dinghy Park, Porth Castell, Ravenspoint Road, Trearddur.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai Siaradwr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.2 a 12.5.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu Gohirio pdf eicon PDF 562 KB

6.1 34C553A – Ty’n Coed, Llangefni

 

6.2 38C201A/EIA/RE – Ysgellog, Rhosgoch

 

6.3 41C125B/EIA/RE – Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1  34C553A Cais amlinellol ar gyfer datblygiad trigiannol yn cynnwys cyfleuster gofal ychwanegol, priffordd a rhwydwaith cysylltiol yn Ty’n Coed, Llangefni

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.2  Cais llawn i godi dau dyrbin gwynt 4.6MW gydag uchder hwb hyd at uchafswm o 59m,  rotor hyd at 71m ar ei draws, a hyd at 92.5m i flaen fertigol y llafn ynghyd ag is-orsaf ac adeilad rheoli, llefydd caled cysylltiedig, trac mynediad newydd yn cysylltu i’r tyrbinau arfaethedig o’r tyrbinau presennol, iard adeiladu dros dro a lle troi ac isadeiledd arall sy’n berthnasol ar dir ger Ysgellog, Rhosgoch

 

Wedi datgan diddordeb yn y cais hwn, aeth y Cynghorydd WT Hughes allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno. Cymerodd y Cynghorydd Ann Griffith, Is-gadeirydd, y Gadair ar gyfer yr eitem. 

 

Penderfynwyd ymweld â'r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog er mwyn cael gwerthfawrogiad o raddfa a chyd-destun y cynnig.

 

6.3  41C125B/EIA/RE - Cais llawn ar gyfer codi tri thyrbin gwynt 800kW - 900kW gydag uchder hwb hyd at uchafswm o 55m, diamedr hyd at 52m ar ei draws a hyd at 81m i flaen fertigol y llafn, gwelliannau i’r fynedfa bresennol i lôn yr A5025, ynghyd â chodi 3 chabinet storio offer ar dir yn Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 779 KB

7.1 15C91D – Ty Canol, Malltraeth

 

7.2 21C40A – Penrhyn Gwyn, Llanddaniel

 

7.3 40C233B/VAR – Yr Owls, Dulas

 

7.4 44C311 – 4 Tai Cyngor, Rhosgoch

 

7.5 46C129B/FR – Parc Dinghy, Porth Castell, Ffordd Ravenspoint,Trearddur

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  15C91D - Cais llawn i ddymchwel yr ystafell ardd bresennol ynghyd â chodi adeilad pwll nofio yn ei le yn Tŷ Canol, Malltraeth

 

Roedd y cais hwn wedi cael ei alw i mewn gan Aelod Lleol er mwyn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno.  Yn ei gyfarfod ar 5 Tachwedd, penderfynodd y Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad er mwyn cael prawf mandylledd mewn perthynas â’r draeniad ac i dderbyn sylwadau gan y Swyddog AHNE.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd y Swyddog AHNE wedi codi unrhyw wrthwynebiadau i’r cynnig.  Mae’r amodau sydd ynghlwm wrth y caniatâd cynllunio yn rhoddi sylw i’r problemau draenio.  Roedd yr argymhelliad yn un i gymeradwyo’r cais gyda’r amodau a restrwyd ac ar yr amod y derbynnir manylion cyn i’r caniatâd gael ei ryddhau.  Oni ddaw’r manylion hynny i law neu os byddant yn annerbyniol i’r Pwyllgor Cynllunio, yna bydd y cais yn cael ei ailgyflwyno i’r Pwyllgor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo. Eiliodd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ac fel yr adroddwyd i'r Pwyllgor.

 

7.2  21C40A – Cais llawn i godi sied amaethyddol ar gyfer cadw anifeiliaid a phwll cribol ar dir yn Penrhyn Gwyn, Llanddaniel

 

Mae’r cais wedi cael ei alw i mewn gan Aelod Lleol er mwyn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno.  Yn ei gyfarfod ar 3 Medi 2014, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle a chynhaliwyd yr ymweliad ar 17 Medi.  Yn ei gyfarfod ar 1 Hydref, penderfynodd y Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad ar y cais yn dilyn derbyn ymateb yr Adran Iechyd yr Amgylchedd i’r ymgynghori a gwrthwynebiadau ychwanegol.  Anfonwyd y rheini ymlaen i’r ymgeisydd er mwyn iddynt gael sylw cyn gwneud penderfyniad.   Yn ei gyfarfod ar 5 Tachwedd, penderfynodd y Pwyllgor eto i ohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn rhoddi i’r ymgeisydd y cyfle i wneud sylwadau.

 

Anerchodd Mr. Rhys Davies y Pwyllgor yn gwrthwynebu’r cais ar sail pryderon difrifol yn lleol ynglŷn â’r cynnig.  Dywedodd bod y Swyddog yn ei adroddiad yn argymell caniatáu yn amodol ar gynllun sgrinio a rheoli arogleuon ond ystyrir y bydd y camau lliniaru hynny yn rhy hwyr unwaith y bydd y cynnig wedi ei weithredu oherwydd ei fod mod agos at yr annedd agosaf sef Penrhyn Gwyn.  Dylid bod wedi cynnal asesiad sŵn ac effaith ar arogleuon cyn gwneud penderfyniad ar y cais sef canllawiau y mae awdurdodau eraill yng Nghymru yn eu dilyn pan fydd unrhyw gynnig i ddatblygu o fewn 200m i’r eiddo agosaf.  Yn yr achos hwn, bydd wedi ei leoli o fewn 100m o Penrhyn Gwyn.  Dywed canllawiau cynllunio y gellir codi adeiladau i gadw anifeiliaid neu byllau cribol heb ganiatâd cynllunio os ydynt wedi eu lleoli ymhellach na 400m o’r annedd agosaf gan ei gwneud yn glir felly mai 400m yw’r meincnod ar gyfer cynigion megis hwn.  Dywed y Swyddog Iechyd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisidadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau’n Gwyro pdf eicon PDF 356 KB

10.1 38C275B – Pedwar Gwynt, Mynydd Mechell

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1  38C275B - Cais i ddileu amod (ii) ‘annedd amaethyddoloddi ar ganiatâd cynllunio T/1305b ynghyd â chadw’r estyniad porth, sied gysylltiedig a lloches, tanc septig, a dwy fynedfa i gerbydau yn Pedwar Gwynt, Llanfechell

 

Cafodd y cais ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod yn groes i bolisi a’r Swyddog yn argymell ei ganiatáu.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod dwy elfen i’r cais – pa mor dderbyniol yw’r gwaith adnewyddu a wnaed heb ganiatâd yn y (cafodd yr egwyddor o ddatblygu ar y safle ei sefydlu yn 1968), a gwneud i ffwrdd â’r amod a oedd yn golygu mai dim ond person yn gweithio mewn amaethyddiaeth gai fyw ynddo. Nid yw’r ymgyngoreion statudol wedi cofrestru unrhyw wrthwynebiadau i’r gwaith a wnaed ac ym marn y Swyddog, ni fydd yn cael effaith ar fwynderau unrhyw eiddo cyfagos i’r graddau y byddai hynny’n gwarantu ei wrthod; ac ni fydd ychwaith yn cael effaith andwyol ar fwynderau’r ardal o ran lleoliad, dyluniad, maint a deunyddiau. O ran y bwriad i wneud i ffwrdd â’r amod deiliadaeth amaethyddol, mae gan yr Awdurdod Cynllunio amheuon ynglŷn â’r modd y cafodd ei gyfiawnhau yn y lle cyntaf ac mae o’r farn na chafodd ei ddefnyddio’n gywir erioed. Mae’r argymhelliad felly yn un i ganiatáu’r cais.

 

Mynegodd sawl Aelod o’r Pwyllgor bryderon ynglŷn â’r ffaith fod amodau wedi cael eu torri yn yr achos hwn gan ddweud yr ymddengys fod ceisiadau i reoleiddio datblygiadau heb ganiatâd yn cael eu cyflwyno’n amlach gyda hynny, fe dybir, yn arwydd o wendid yn y broses gynllunio. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod Llywodraeth Cymru wrthi’n cynnal adolygiad o’r system orfodaeth.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid gwrthod y cais oherwydd graddfa’r tor-amod a’r posibilrwydd y gallai ei ganiatáu osod cynsail. Eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig.

 

Er bod ganddo bryderon ynghylch torri amodau cynllunio a phresenoldeb carafannau statig ar y safle, cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes y dylid caniatáu’r cais oherwydd nid oedd yn credu fod rhesymau cynllunio dilys dros ei wrthod. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones. Yn y bleidlais, cariwyd y cynnig i ganiatáu’r cais.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 337 KB

11.1 39C552 – 114 Penlon, Porthaethwy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1  39C552 Cais llawn am addasu ag ehangu yn 114 Penlon, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i aelod o staff yn yr Adran Gynllunio. Mae'r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan adran 4.6.10.4 o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones y dylid cymeradwyo y cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 981 KB

12.1 11C623 – 1 Tai Cyngor, Burwen

 

12.2 16C48H – Ger y Bryn, Bryngwran

 

12.3 19C842Y – Parc Cybi, Caergybi

 

12.4 19LPA434C/FR/CC – Canolfan Gymuned Jesse Hughes, Caergybi

 

12.5 42C61K – Ty’r Ardd, Pentraeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  11C623 Cais llawn i wneud gwelliannau i’r fynedfa bresennol ynghyd â chreu llawr caled ar gyfer parcio yn 1 Tai Cyngor, Burwen, Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor Sir yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo y cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  16C48H Cais lawn i gadw slab concrid ynghyd â chodi sied amaethyddol i’w defnyddio fel storfa ac i gadw anifeiliaid ar dir yn Ger y Bryn, Bryngwran

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y Pwyllgor yn cynnal ymweliad safle er mwyn i'r Aelodau weld y safle drostynt eu hunain yn enwedig yng ngoleuni ei hanes cynllunio. Eiliodd y Cynghorydd Richard Owain Jones y cynnig.

 

Penderfynwyd ymweld â safle'r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

12.3  19C842Y Cais llawn ar gyfer adeiladu estyniad i’r ganolfan drafnidiaeth a ganiatawyd sydd yn cynnwys creu ardaloedd tirlunio a gwelliannau ecolegol ar dir yn Parc Cybi, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno rhybudd i'r Cyngor fel rhan berchennog safle'r cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn un i ymestyn yr hyb trafnidiaeth a ganiatawyd yn 2013 i ddarparu 49 o lefydd parcio ychwanegol ar gyfer HGV. Roedd y materion allweddol yn ymwneud â’r dirwedd ac ystyriaethau ecolegol a thraffig. Mae’r cynllun wedi cael ei ddiwygio i fodloni’r ymgyngoreion ac ystyrir ei fod yn dderbyniol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Nicola Roberts at y mater o fudd cymunedol a godwyd gan y Cyngor Tref. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod rhaid i gais am fudd cymunedol fod â chyswllt uniongyrchol y mae modd ei brofi i’r datblygiad. Yn yr achos hwn, nid oedd unrhyw resymau clir dros ofyn am fudd cymunedol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  19LAP434C/FR/CC – Cais llawn ar gyfer adnewyddu’r adeiladau gwreiddiol, dymchwel yr estyniad cyswllt ynghyd â chodi estyniad deulawr newydd yng Nghanolfan Gymunedol Jesse Hughes, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor ar dir y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y cais yn addasiad i gynllun a gymeradwywyd ym mis Medi 2014 dan gyfeirnod 19LAP434B/FR/CC a’i fod yn cynnig 20 o lecynnau parcio yn hytrach na’r 16 a gymeradwywyd eisoes. Er y bydd y rhain yn agosach at yr eiddo y tu cefn i’r safle, bydd yr estyniad arfaethedig yn awr yn bellach i ffwrdd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 220 KB

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1  19C1136A/VAR – Cais i amrywio amod (02) ar ganiatâd cynllunio 19C1136 (bydd yr ystafell ddosbarth symudol a ganiateir yma yn cael ei symud oddi ar y tir erbyn 07.05.2019) er mwyn newid y caniatâd dros dro o 5 i 10 mlynedd ar gyfer lleoli adeilad symudol yn Ysgol Kingsland, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion fel cais ychwanegol at y rhai y cafwyd rhybudd yn eu cylch.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y Pwyllgor, ym mis Mehefin, wedi caniatáu cais i leoli adeilad symudol i ddarparu meithrinfa am gyfnod dros dro o 5 mlynedd.  Gan fod y cynnig yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru, rhaid i’r adeilad fod ar gael am gyfnod o 10 mlynedd.  Rhaid gwario’r arian erbyn diwedd Mawrth 2015 a rhyddhau caniatâd cynllunio erbyn diwedd y flwyddyn  galendr fel y gellir gwneud y paratoadau.

 

Rhoes y Cadeirydd ei ganiatâd i’r cais gael ei ystyried fel mater brys oherwydd yr amgylchiadau arbennig a oedd ynghlwm wrth y cais fel yr adroddwyd arnynt gan y Swyddog. Cymeradwywyd ei benderfyniad gan y Pwyllgor.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.