Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 01248 752516
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaed datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn:
Y Cynghorydd W.T. Hughes mewn perthynas ag eitemau 7.2 a 7.3 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.
Y Cynghorydd R. O. Jones mewn perthynas ag eitem 7.2.
Y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith, Vaughan Hughes a Nicola Roberts mewn perthynas â cheisiadau 7.2, 7.3 a 21.1 oherwydd y cyfeiriad at dyrbinau gwynt ym maniffesto Plaid Cymru. Dywedodd yr Aelodau y byddent yn cadw meddwl agored ac yn penderfynu ar bob cais yn ôl ei rinweddau ei hun.
Y Cynghorydd R. Meirion Jones fel Aelod Lleol, er nad yw'n Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion mewn perthynas ag eitem 11.2 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.
|
|
Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr, 2014. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2014 yn amodol ar gywiro 7.4 o yn y fersiwn Gymraeg a ddylai ddarllen “pleidleisiodd y Cynghorwyr John Griffith, Ken Hughes, Vaughan Hughes, Richard Owen Jones, Nicola Roberts a W.T. Hughes i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog”.
|
|
Ymweliad Safleoedd Adrodd y cynhaliwyd ymwedliadau safle ar 17 Rhagfyr, 2014 mewn perthynas â’r ceisiadau canlynol :-
· 16C48H – Cais llawn i gadw slab concrid ynghyd a chodi sied amaethyddol i’w defnyddio fel storfa ac i gadw anifeiliaid ar dir yn Ger y Bryn, Bryngwran.
· 38C301A/EIA/RE – Cais llawn i godi dau dwrbin wynt 4.6MW gyda uchder hwb hyd at uchafswm o 59m, diamedr rotor hyd at 71m, a uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 92.5m ynghyd ag is-orsaf ac adeilad rheoli, llefydd caled cystylltiedig, tract mynediad newydd yn cysylltu i’r tyrbinau arfaethedig o’r tyrbinau presennnol, iard adeiladu dros dro a lle troi ac isadeiledd arall sy’n berthnasol ar dir ger Ysgellog, Rhosgoch. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd bod ymweliadau safle wedi eu cynnal ar 17 Rhagfyr, 2014 mewn perthynas â'r ceisiadau canlynol:
· 16C48H – Cais llawn i gadw slab concrid ynghyd â chodi sied amaethyddol i’w defnyddio fel storfa ac i gadw anifeiliaid ar dir yn Ger y Bryn, Bryngwran.
· 38C301A/EIA/RE – Cais llawn i godi dau dyrbin gwynt 4.6MW hyd at 59 m o uchder, rotor a fydd hyd at 71m ar ei draws a hyd at 92.5m i flaen fertigol y llafn ynghyd ag is-orsaf ac adeilad rheoli, llefydd caled cysylltiedig, trac mynediad newydd yn cysylltu i’r tyrbinau arfaethedig o’r tyrbinau presennol, iard adeiladu dros dro a lle troi ac isadeiledd arall sy’n berthnasol ar dir ger Ysgellog, Rhosgoch.
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai Siaradwr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.2, 7.3 a 11.2.
|
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio PDF 408 KB 6.1 33C304B/ECON – Cyffordd 7 o’r A55 ger Cefn Du, Gaerwen 6.2 34C553A – Ty’n Coed, Llangefni Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6.1 33C304B/ECON - Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer dymchwel fferm bresennol, codi parc gwyddoniaeth, creu maes parcio ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau yng Nghyffordd 7 yr A55 (ger Cefn Du), Gaerwen.
PENDERFYNWYD ymweld â'r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
6.2 34C553A – Cais amlinellol ar gyfer datblygiad trigiannol yn cynnwys cyfleuster gofal ychwanegol, priffordd ac isadeiledd cysylltiedig yn Ty’n Coed, Llangefni.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
|
|
7.1 21C40A – Penrhyn Gwyn, Llanddaniel 7.2 38C201A/EIA/RE – Ysgellog, Rhosgoch 7.3 41C125B/EIA/RE – Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.121C40A - Cais llawn i godi sied amaethyddol ar gyfer cadw anifeiliaid a phwll cribol ar dir yn Penrhyn Gwyn, Llanddaniel
Mae’r cais wedi cael ei alw i mewn gan Aelod Lleol ar gyfer ei benderfynu gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Yn ei gyfarfod ar 3 Medi 2014, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle. Ymwelwyd â’r safle ar 17 Medi 2014. Yn ei gyfarfod ar 1 Hydref, penderfynodd y Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad ar y cais yn dilyn derbyn ymateb i’r ymgynghori gan yr Adran Iechyd yr Amgylchedd ynghyd ag ychwaneg o wrthwynebiadau. Anfonwyd y rhain at yr ymgeiswyr er mwyn caniatáu iddynt eu hystyried cyn y gwneir penderfyniad. Yn ei gyfarfod ar 5 Tachwedd, penderfynodd y Pwyllgor unwaith eto i ohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn caniatáu i’r ymgeisydd y cyfle i gyflwyno sylwadau. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y cafwyd dau lythyr pellach o wrthwynebiad ynghyd â llythyr gan Asiant yr eiddo cyfagos.
Dywedodd y Cynghorydd Eifion Jones, Aelod Lleol, fod y datblygiad yn annerbyniol o agos at yr eiddo agosaf ac roedd o’r farn y dylai’r ymgeisydd ystyried ail-leoli’r sied arfaethedig.
Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies ei fod ef yn cytuno fod y sied yn annerbyniol o agos ar yr annedd gyfagos a chynigiodd y dylid ail-gadarnhau’r penderfyniad blaenorol a wnaed i wrthod y cais. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans.
Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd R O Jones.
PENDERFYNWYD cadarnhau penderfyniad blaenorol i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd ei agosrwydd at yr annedd agosaf a'r potensial ar gyfer sŵn ac effaith arogleuon.
7.2 38C301A/EIA/RE - Cais llawn i godi dau dyrbin gwynt 4.6MW hyd at 59m o uchder, rotor a fydd hyd at 71m ar ei draws a 92.5m i flaen fertigol y llafn ynghyd ag is-orsaf ac adeilad rheoli, llefydd caled cysylltiedig, trac mynediad newydd yn cysylltu i’r tyrbinau arfaethedig o’r tyrbinau presennol, iard adeiladu dros dro a lle troi ac isadeiledd arall sy’n berthnasol ar dir ger Ysgellog, Rhosgoch.
Ar ôl datgan diddordeb yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd W T Hughes y cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno. Aeth y Cynghorydd Ann Griffith, Is-gadeirydd i’r Gadair ar gyfer yr eitem hon.
Gwnaeth y Cynghorwyr R O Jones a John Griffith ddatganiad o ddiddordeb personol yn y cais.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd y penderfyniad a wnaed i beidio â defnyddio pwerau dirprwyedig mewn perthynas â datblygiadau tyrbinau gwynt.
Anerchodd Mr R J G Carter y Pwyllgor fel un a oedd yn gwrthwynebu’r cais. Dywedodd ei fod wedi byw gyda’i deulu oddeutu 900 metr i’r de o dyrbinau Ysgellog 1. Mae’r sŵn o’r tyrbinau hyn yn annioddefol ac yn flinderus ar adegau; ceir sŵn dyrnu cyson wrth i’r rotorau droi. Ar adegau, gellir cymharu’r sŵn i rymblan isel injan disel a gall ddigwydd unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos a gall fod ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i[w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 454 KB
11.1 31C134H/DEL – Cae Cyd, Llanfairpwll 11.2 31C422 – Ceris, Llanfairpwll Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 11.1 31C134H/DEL – Cais dan Adran 73 i ddileu amodau (03), (04) a (05) (Côd Cartrefi Cynaliadwy) o ganiatad cynllunio rhif 31C134E ‘cais llawn ar gyfer codi 5 annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau’ ar dir ger Cae cyd, Llanfairpwll.
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn gyfaill agos i ‘swyddog perthnasol’ fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad. Mae'r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan adran 4.6.10.4 o Gyfansoddiad y Cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod rhaid i ddatblygiadau tai newydd – dan NCT 22 – Cynllunio ar gyfer Adeiladau Cynaliadwy, gwrdd â gofynion y Côd ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy a bod gofyniad o ran polisi i osod amodau cynllunio i gwrdd â’r amcan hwnnw.
Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.2 31C422 – Cais llawn i addasu ac ehangu gan gynnwys codi uchder y to i greu llawr cyntaf yn Ceris, Llanfairpwll.
Er nad yw’n Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, gwnaeth y Cynghorydd R Meirion Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn fel Aelod Lleol ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad. Mae'r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan adran 4.6.10.4 o Gyfansoddiad y Cyngor.
Anerchodd Mr Sutton y cyfarfod fel un a oedd yn gwrthwynebu’r cais. Dywedodd ei fod yn siarad ar ran ei deulu ei hun a’i gymdogion. Y bwriad yn Ceris, Llanfairpwll, yw codi uchder yr eiddo gan 2 fetr a fyddai’n golygu y byddai elfen sylweddol o edrych drosodd; mae Ceris yn edrych dros ei ardd ef fel y mae. Mae’r coed ym mhen yr ardd yn Ceris ac sydd wedi eu plannu ar y ffin, eisoes yn cyfyngu ar oleuni ac yn tyfu drosodd i’r eiddo cyfagos. Dywedodd Mr Sutton nad oes fawr o broblem o ran edrych drosodd ar hyn o bryd ond y byddai cymeradwyo’r cais hwn yn newid y sefyllfa’n ddramatig. Ar hyn o bryd, mae llinellau to Ceris ac eiddo cyfagos yn gymesur ond byddai hynny’n newid a byddai’n anghydnaws a gweddill yr ardal weladwy.
Anerchodd Mr Owen Evans y cyfarfod fel un a oedd yn cefnogi’r cais. Dywedodd fod Ceris, Llanfairpwll, wedi ei leoli ar Ffordd Penmynydd, Llanfairpwll. Mae’r tai ar y ffordd hon yn amrwyio o ran dyluniadau archeolegol a maint. Mae Ceris, Penmynydd yn fyngalo dormer gyda chrib isel o 7 troedfedd. Mae’r perchenogion yn cael anhawster byw yn yr eiddo oherwydd ei faint. Dywedodd Mr Evans mai dim ond 2 eiddo sydd wedi gwrthwynebu’r cais, sef 8 a 9 Lôn y Wennol, Llanfairpwll. Mae ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Gweddill y Ceisiadau PDF 228 KB 12.1 24C59H/RE – Pen y Gogarth, Llaneilian Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 24C59H/RE - Cais llawn ar gyfer codi un tyrbin gwynt 5Kw hyd at 15m o uchder, rotor a fydd hyd at 5.6m ar ei draws a hyd at 17.8m i flaen fertigol y llafn yn Pen y Gogarth, Llaneilian.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd y penderfyniad a wnaed i beidio â defnyddio pwerau dirprwyedig mewn perthynas â datblygiadau tyrbinau gwynt.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, er mai tyrbin gwynt bychan yw hwn, nid yw’r eiddo preswyl agosaf ond 45m i ffwrdd a byddai’r tyrbin yn nodwedd or-amlwg yn y dirwedd ac yn cael effaith andwyol ar fwynderau trigolion. Mae’r safle’n agos iawn at AHNE ac ystyrir y byddai’n cael effaith niweidiol ar y dirwedd.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid gwrthod y cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd R O Jones.
Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
|
|
13.1 12LPA1003B/CC/MIN – Pont Townsend, Penrhyn Safnas, Biwmares Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 13.1 12LPA1003B/CC/MIN - Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol dan ganiatâd cynllunio 12LPA1003/FR/CC yn Pont Tawnsend, Penrhyn Safnas, Biwmares. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cais oedd hwn ar gyfer mân newidiadau i gais a dderbyniwyd ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd ym Miwmares a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 1 Medi 2014. Roedd y newidiadau yn ymwneud â thynnu i lawr rhan dop y wal fôr bresennol a’i gostwng i oddeutu 400mm islaw lefel y llwybr troed cyfredol. Byddai’r cerrig a dynnwyd o’r wal gyfredol yn cael eu defnyddio i ailadeiladu/ychwanegu at rannau eraill ohoni, yn unol â’r cais gwreiddiol. Ystyriwyd nad oedd y gwaith altro arfaethedig yn ystyriaeth gynllunio ac y gellid o’r herwydd, ei gymeradwyo dan Adran 96A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad er gwybodaeth. 13.2 16C48H – Cais llawn i gadw slab concrid ynghyd â chodi sied amaethyddol i’w defnyddio fel storfa ac i gadw anifeiliaid ar dir yn Ger y Bryn, Bryngwran
Caniataodd y Cadeirydd yr eitem hon fel ychwanegiad hwyr a brys i’r Rhaglen oherwydd iddi gael ei gadael allan mewn camgymeriad o’r Rhaglen wreiddiol a bod yr ymgeisydd eisiau penderfyniad cyflym fel y gallai symud ymlaen gyda’r datblygiad. Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2014, penderfynwyd ymweld â’r safle cyn gwneud penderfyniad. Ymwelwyd â’r safle ar 17 Rhagfyr 2014. Dywedodd y Cynghorydd Bob Parry OBE, aelod lleol, fod yr ymgeisydd yn dymuno dwyn at sylw’r Pwyllgor, faterion a godwyd gan ei gymydog yn ei wrthwynebiad i’r cais hwn. Mae gan yr ymgeisydd fwy na 4 erw o dir, mae ganddo anifeiliaid, nid oes ail danc septig wedi cael ei osod yn yr eiddo, mae yna gyflenwad trydan a dŵr ac nid oes angen lle parcio ger sied amaethyddol. Dywedodd y Cynghorydd Parry fod yr ymgeisydd wedi adeiladu slab goncrid sy’n fwy na’r maint a ganiatawyd; dylai’r slab fod yn 10.2 metr ond mae’n 12 metr o led. Y rheswm am hynny oedd bod yr ymgeisydd yn dymuno rhoi ei dractor a’i drelar yn y sied. Dywedodd y Cynghorydd Parry ymhellach fod yr ymgeisydd yn dymuno nodi ei fod eisoes wedi cael caniatâd cynllunio i godi sied 10.2 metr ac nid oedd yn cytuno y byddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar gymeriad yr ardal. Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid gwrthod y cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd R O Jones.
Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
|